Raffl Fawr
Mae Prifysgol De Cymru yn cynnal raffl i fyfyrwyr sy'n cwblhau pedwar modiwl cyntaf y rhaglen Staying Safe. Bydd myfyrwyr sy’n e-bostio [email protected] gyda’r pennawd pwnc ‘Rhaglen Staying Safe’ yn cael eu cynnwys yn y raffl i ennill iPad. Mae dau gyfle i ennill.
Telerau ac Amodau
- Mae'r gystadleuaeth yn agored i fyfyrwyr sydd wedi cofrestru ar hyn o bryd ym Mhrifysgol De Cymru yn unig.
- Ni chaniateir cyflwyniadau lluosog gan yr un myfyriwr. Os bydd myfyriwr yn cyflwyno mwy nag un cofnod yna dim ond un fydd yn cael ei gyfrif.
- Bydd y raffl gyntaf yn cau am hanner nos ddydd Mawrth 28 Mawrth 2023 a'r ail raffl yn cau am hanner nos, ddydd Mercher 3 Mai. Bydd y ddwy raffl yn cael eu cynnal ar hap.
- Mae'r wobr fel y rhestrwyd uchod, nid oes arian parod arall ar gael.
- Bydd yr enillwyr yn cael eu hysbysu trwy eu cyfeiriad e-bost PDC, cyn gynted â phosibl ar ôl i'r raffl gael ei chynnal.
- Bydd gwobrau nas hawlir yn cael eu casglu a'u hailddyrannu.
- Mae penderfyniad tîm UniLife yn derfynol ac ni fydd unrhyw ohebiaeth.
- Dim ond at ddibenion gweinyddu'r gystadleuaeth hon y byddwn yn defnyddio eich manylion personol.
- Nid yw'r gystadleuaeth hon yn agored i unrhyw un sy'n ymwneud yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol â rhedeg y gystadleuaeth, nac i aelodau uniongyrchol o deulu'r rhai sy'n ymwneud â rhedeg y gystadleuaeth.
- Mae Prifysgol De Cymru yn cadw'r hawl i ganslo cystadleuaeth ar unrhyw adeg, os bernir bod angen.
- Ystyrir bod y rhai sy'n cymryd rhan wedi derbyn y rheolau hyn ac yn cytuno i gael eu rhwymo ganddynt wrth gystadlu.