Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl 2023

Brain Illustration Neon Mental Health Poster

Mae Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl yn gyfle i feddwl am ein hiechyd meddwl, darganfod mwy am faterion iechyd meddwl a sut gallwn ni helpu ein gilydd. Cynhelir Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl rhwng 15 a 21 Mai a’r thema eleni yw ‘pryder’.

Gorbryder yw’r hyn a deimlwn pan fyddwn yn poeni, yn llawn tyndra neu’n ofnus – mae’n emosiwn normal ynom ni i gyd, ond gall ddod yn broblem iechyd meddwl os yw’n effeithio ar eich gallu i fyw eich bywyd mor llawn ag y dymunwch.

Beth sy'n achosi pryder?

Mae pobl yn teimlo'n bryderus am lawer o wahanol resymau. Gallech fod yn cael trafferth gyda straen neu deimlo dan bwysau wrth astudio. Efallai eich bod yn profi llawer o newid neu ansicrwydd, neu'n poeni am arian neu dai.

Mae’n bwysig gwybod bod llawer o bobl yn profi’r teimladau hyn. Drwy nodi beth sy'n eich gwneud yn bryderus, gallwch ddod yn fwy parod i gymryd camau cadarnhaol i ddechrau teimlo'n well. Mae gorbryder yn union fel unrhyw emosiwn arall - bydd yn mynd a dod ac mae yna bethau y gallwch chi eu gwneud i reoli'r teimladau hyn.

Dewch o hyd i'r hwyl: gweithgareddau lleddfu pryder

Ddydd Mawrth 16 Mai, bydd y Gwasanaeth Lles, mewn partneriaeth â’r Chaplaniaeth, yn darparu diwrnod o weithgareddau lleddfu pryder yn y Tŷ Cwrdd ar Gampws Trefforest:

  • 10am-11am Cerdded a Siarad
  • 11am-12pm Bore Coffi a Sgwrs gyda Chaplaniaeth
  • 12pm-1pm Cinio
  • 1pm-2.30pm Sesiwn Grefft
  • 2pm-4pm Cŵn Therapi
  • 4-5pm Cylchedau/Sesiwn Ffitrwydd

P'un a ydych yn ystyried eich hun yn berson pryderus ai peidio, neu os ydych yn cael trafferth gyda'ch iechyd meddwl mewn ffyrdd eraill, mae'r gweithgareddau hyn yn agored i bawb. Darganfyddwch fwy a chofrestrwch i gymryd rhan.

Siawns am Sgwrs

Mae pawb yn teimlo'n unig ar ryw adeg. Gyda ‘Siawns am Sgwrs’, mae’r Gwasanaeth Lles yn gobeithio helpu. Rydym yn dod â grwpiau “sgwrsio” bach o fyfyrwyr at ei gilydd mewn lleoliad niwtral, tawel a hamddenol. Mae’r grwpiau hyn yn cael eu darparu ar-lein ac yn cael eu harwain gan fentor arbenigol hyfforddedig sy’n gallu dechrau’r sgyrsiau a darparu cefnogaeth gyfeillgar drwy’r amser. Cofrestrwch eich diddordeb.

Gofynnwch am help

Os ydych chi’n cael trafferth gyda’ch iechyd meddwl ac angen cymorth pellach, mae apwyntiadau Cyngor Lles 45 munud ar gael a gellir eu harchebu trwy’r Ardal Gynghori Ar-lein. Mae apwyntiadau ar gael ar y campws, trwy Microsoft Teams, neu dros y ffôn.

#Llesiant #unilife_cymraeg