01-02-2023
Mae Prifysgol De Cymru wedi partneru â Brook – Healthy Lives for Young People i ddarparu gweithdy ar berthnasoedd iach. Bydd y gweithdy hwn ar gael dros Zoom, am 6pm ar ddydd Mercher 8fed o Chwefror.
Mae gwybod sut i ffurfio a chynnal perthynas iach yn hanfodol i ddelio â phroblemau wrth iddynt godi, megis gwrthdaro a ffiniau, ac yn gadael unigolion yn llai agored i sefyllfaoedd camdriniol.
Dysgwch am berthnasoedd iach, adnabod arwyddion cam-drin a sut i geisio cymorth. Cofrestrwch ac anogwch eich ffrindiau i wneud yr un peth.
Mae cydsyniad yn digwydd pan fydd pawb sy'n ymwneud ag unrhyw fath o weithgaredd rhywiol yn cytuno i gymryd rhan trwy ddewis. Mae angen iddynt hefyd gael y rhyddid a'r gallu i wneud y dewis hwnnw.
Cymerwch amser i sicrhau eich bod yn deall sut i gael a rhoi cydsyniad yn y cwrs Brook Consent for Students, sydd ar gael ar Blackboard.
Gall bod yn agored i sgyrsiau am gam-drin rhywiol a thrais helpu’r rhai mewn angen i deimlo’u bod yn cael eu hannog i ddod o hyd i gymorth. Ymunwch â'r sgwrs gan ddefnyddio'r hashnod #ITSNOTOK.
Mae yna wasanaethau a all helpu os ydych chi neu rywun rydych yn ei adnabod wedi profi trais neu gam-drin rhywiol.
Mae’r Gwasanaeth Lles yn darparu man diogel a chyfrinachol i drafod achosion o niwed a gall eich cyfeirio at gymorth arbenigol. Mae apwyntiadau Cyngor Lles 45 munud ar gael a gellir eu harchebu trwy’r Ardal Gynghori Ar-lein.
Mae yna hefyd lawer o sefydliadau, gwefannau a llinellau cymorth sy'n cynnig gofal arbenigol. Os byddai’n well gennych gael cymorth y tu allan i’r Brifysgol, mae cymorth ar gael drwy New Pathways a Llinell Gymorth Live Fear Free. Dewch o hyd i ragor o wybodaeth ar y dudalen Adnoddau Hunangymorth.
27-11-2023
17-11-2023
06-11-2023
09-10-2023
04-10-2023
29-09-2023
11-09-2023
10-05-2023
31-03-2023