Wythnos Iechyd Rhywiol 2023 - Byddwch yn Ddiogel

Sex-Health-23-CYM

Eleni, mae Wythnos Iechyd Rhywiol yn canolbwyntio ar ‘byddwch yn ddiogel’. Mae bod yn ddiogel yn golygu teimlo wedi'u grymuso i gael gafael ar atal cenhedlu, profi a thriniaeth. Mae'n golygu deall cydsyniad, perthnasoedd iach a phleser.

Fel myfyriwr PDC, mae gennych fynediad at Wasanaeth Iechyd PDC, sydd dan arweiniad nyrsys, ac sydd yno i gynnig cyngor a chefnogaeth ym mhob agwedd ar iechyd rhywiol, perthnasoedd iach a sut i gael gafael ar gefnogaeth arbenigol allanol.

Cysylltwch â Gwasanaeth Iechyd PDC

Dysgwch am iechyd rhywiol a phrofion am ddim am heintiau adrosglwyddir yn rhywiol

Wythnos Iechyd Rhywiol 2023

(Mae Brook yn elusen gofrestredig, sydd "wedi ymrwymo i newid agweddau, herio rhagfarnau a hyrwyddo cydraddoldeb er mwyn i bob person ifanc fyw bywydau hapus, iach.")

Condomau am ddim

Yn ddiweddarach ym mis Medi, mae Gwasanaeth Iechyd PDC yn cynnal rhai sesiynau cofrestru pwrpasol a sesiynau casglu condomau am ddim i fyfyrwyr dan 25 oed.

  • Dydd Llun 25ain, 2pm-4pm Campws Trefforest H008
  • Dydd Mawrth 26ain 11am-1pm Campws Caerdydd CAA002
  • Dydd Gwener 29ain 2:30pm - 4:30pm Campws Trefforest H008

#Llesiant #unilife_cymraeg