20-03-2023
Rhybudd cynnwys: mae'r erthygl hon yn trafod yfed a chymryd cyffuriau.
Mae'r cwrs Staying Safe yn gwrs e-ddysgu newydd sydd wedi'i gynllunio i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am gyffuriau ac alcohol a'ch helpu chi a'ch ffrindiau i gadw'n ddiogel. Wedi'i gynllunio gan arbenigwyr mewn meddygaeth, cyffuriau, y gyfraith, cydsyniad rhywiol ac yn bwysicaf oll, myfyrwyr, mae hwn yn blatfform y gallwch ei ddefnyddio trwy gydol eich amser yn PDC i gael gwybod am ddiod a chyffuriau. Nid eich barnu chi yw pwrpas y cwrs ond i roi gwybodaeth a chyngor cywir a defnyddiol i chi.
Er mwyn eich annog i roi cynnig arni, mae Prifysgol De Cymru yn rhoi dau iPad i chi fel gwobrau! I gymryd rhan, bydd angen i chi gwblhau pedwar modiwl cyntaf y cwrs:
Mae’r rhaglen Staying Safe yn cynnwys modiwlau fideo sy’n ymdrin â’r rhan fwyaf o’r cyffuriau a gymerir yn y DU heddiw, y risgiau wrth eu cymryd a sut i ymgysylltu â nhw yn fwy diogel. Mae yna hefyd fodiwlau ar y gyfraith a'ch hawliau, yr hyn a elwir yn Saesneg yn ‘chemsex’, sbeicio diodydd, cydsyniad a meddwdod, sut i siarad â ffrind y gallech fod yn bryderus yn ei gylch, a mwy. Fel myfyriwr PDC, mae’r cwrs cyfan hwn ar gael i chi fynd i mewn ac allan ohono, am weddill y flwyddyn, fel y dymunwch.
Er nad oes unrhyw ffordd i wneud cymryd cyffuriau ac alcohol yn gwbl ddiogel, mae'r cwrs hwn yn cynnig addysg ar ffyrdd o leihau'r risg o niwed.
Gall myfyrwyr ddefnyddio Staying Safe heb ofni y bydd yn eu cael mewn trwbwl. Mae eich data ar y cwrs yn gwbl gyfrinachol a dim ond data dienw fydd yn cael ei gasglu i helpu i werthuso’r cwrs a’i gadw’n berthnasol i fyfyrwyr. Dim ond ar y platfform sy'n cynnal y cwrs (allanol i PDC) y defnyddir e-byst i gadw golwg ar eich cynnydd a'ch galluogi i ddod yn ôl o bryd i'w gilydd i ddysgu mwy, os dymunwch.
11-09-2023
10-05-2023
31-03-2023
20-03-2023
02-03-2023
14-02-2023
09-02-2023
01-02-2023
30-01-2023