02-03-2023
Mae’r Gwasanaeth Lles wedi gweithio mewn partneriaeth â nifer o sefydliadau i ddarparu amrywiaeth o ddigwyddiadau i helpu myfyrwyr i wneud ffrindiau newydd, dysgu sgiliau newydd a theimlo’n fwy abl i reoli eu hiechyd meddwl a’u lles. Mae’r digwyddiadau i’w cyflwyno yn cynnwys:
Ewch i wefan y Gwasanaeth Lles i ddarganfod mwy ac archebu eich lle.
Mae’r BRIT Challenge (23 Ionawr - 23 Mawrth 2023) yn ymgyrch codi arian cynhwysol i wella iechyd meddwl a ffitrwydd. Mae wedi'i gynllunio i gael ei gwblhau gan unigolion sy'n gweithio fel tîm i gwmpasu pellter bob blwyddyn (2,023 milltir fydd hyn yn 2023). Gallwch wneud hyn mewn nifer o ffyrdd, megis beicio llaw, beicio, gwthio cadair olwyn, nofio, cerdded, loncian, rhedeg, rhwyfo, neu badlo (canŵio, caiacio neu badlfyrddio).
I gymryd rhan, cofrestrwch ac ymunwch â thîm Prifysgol De Cymru heddiw! Gwnewch yn siŵr eich bod yn cadw golwg ar eich milltiroedd ac e-bostiwch [email protected] gyda chyfanswm eich milltiroedd. Os hoffech chi wneud cyfraniad, ewch i dudalen gwe BRIT Challenge - GiveStar PDC.
Mae Togetherall yn blatfform llesiant digidol lle mae pobl yn cefnogi ei gilydd yn ddienw i wella iechyd meddwl a lles. Mae Togetherall yn rhad ac am ddim i holl fyfyrwyr PDC ac ar gael 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn.
Mae gan holl fyfyrwyr PDC fynediad i gymorth iechyd meddwl a lles ar-lein am ddim gyda Togetherall. I ymuno, ewch i Togetherall.com
Mae'r Gwasanaeth Lles yn cynnal raffl ar gyfer Diwrnod Iechyd Meddwl y Brifysgol. Rydym yn gofyn i fyfyrwyr rannu eu cyngor hunanofal gorau ar gyfer iechyd meddwl da.
I gymryd rhan, gall myfyrwyr rannu eu cyngor hunanofal trwy ymateb i stori Instagram @unisouthwales neu drwy e-bostio [email protected] gyda’r llinell pwnc, ‘Cystadleuaeth UMHD’. Gwnewch yn siŵr eich bod yn cynnwys eich rhif adnabod myfyriwr.
Bydd ymgeiswyr yn cael cyfle i ennill bwndel o wobrau sy'n cynnwys: mwgwd cwsg Bluetooth, cynllunydd positifrwydd, canhwyllau cysgu, cwcis fegan, te llysieuol, nwyddau brand PDC a mwy!
Mae ein Gwasanaethau Cymorth yn ymroddedig i sicrhau bod pob myfyriwr yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt.
Os nad ydych chi’n siŵr ble i gael cymorth lles ac iechyd meddwl, gall y Gwasanaeth Lles roi cyfle i chi gael eich clywed, i drafod unrhyw heriau a gwneud dewisiadau sy’n iawn i chi.
Ymunwch â miloedd o bobl ar-lein gan ddefnyddio #DiwrnodIechydMeddwlPrifysgol trwy rannu sut a pham rydych chi eisiau gwella dyfodol iechyd meddwl myfyrwyr. Gyda'n gilydd gallwn ysbrydoli sgyrsiau, gweithredu a chreu newid.
11-09-2023
10-05-2023
31-03-2023
20-03-2023
02-03-2023
14-02-2023
09-02-2023
01-02-2023
30-01-2023