Diwrnod Amser i Siarad 2023

tttdcym

Dathlwch Diwrnod Amser i Siarad ddydd Iau 2 Chwefror trwy gael sgwrs am iechyd meddwl.

Mae problemau iechyd meddwl yn gyffredin a bydd un o bob pedwar ohonom yn cael ein heffeithio ar ryw adeg yn ein bywydau. Mae gallu siarad am iechyd meddwl yn rhywbeth sy’n bwysig i ni i gyd.

Mae siarad am iechyd meddwl a gwrando yn lleihau stigma, gan helpu i greu cymunedau cefnogol lle gallwn siarad yn agored am iechyd meddwl a theimlo wedi’n grymuso i geisio cymorth pan fydd ei angen arnom.

Nid yw siarad am iechyd meddwl bob amser yn hawdd, ond gall Amser i Siarad – Awgrymiadau Gwych ar gyfer Siarad helpu i wneud yn siŵr eich bod yn mynd ati mewn ffordd ddefnyddiol. Os nad ydych chi’n hollol barod i siarad â rhywun rydych chi’n ei adnabod, mae Togetherall yn gymuned ar-lein ddiogel, ddienw sydd ar gael 24/7 lle gallwch chi rannu sut rydych chi’n teimlo, gwrando a chael eich clywed.

Sut i gymryd rhan

Ar Ddiwrnod Amser i Siarad rydym am annog pawb i gael sgwrs am iechyd meddwl. Mae yna lawer o ffyrdd i gymryd rhan, o rannu ar gyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio #TimeToTalk a chael sgyrsiau gyda'ch ffrindiau a'ch teulu, i drefnu gweithgareddau a digwyddiadau yn eich cymuned. Gwnewch le yn eich diwrnod ar gyfer sgwrs am iechyd meddwl.

Llysgennad Lles (cyfle gwirfoddoli)

Mae helpu eraill yn ffordd wych o roi yn ôl a gall hefyd fod o fudd i'ch iechyd meddwl a'ch lles eich hun.

Mae PDC wedi partneru â Mind Casnewydd i gefnogi eu rhaglen Llysgenhadon Lles. Gall myfyrwyr o unrhyw gampws gofrestru a dysgu sut i fod yn hyrwyddwyr iechyd meddwl.

Unwaith y byddwch wedi’ch hyfforddi, bydd y Gwasanaeth Lles yn gweithio gyda’r Llysgenhadon Lles i wella darpariaeth lles yn PDC. Os hoffech wybod mwy am y cyfle hwn, cysylltwch â [email protected]

Angen Cymorth?

Os ydych chi’n cael trafferth gyda’ch iechyd meddwl ac angen cymorth pellach, mae apwyntiadau Cyngor Lles 45 munud ar gael a gellir eu harchebu trwy’r Ardal Gynghori Ar-lein. Mae apwyntiadau ar gael ar y campws, trwy Microsoft Teams, neu dros y ffôn.

Mae’r Gwasanaeth Lles yn trefnu digwyddiadau amrywiol sy’n helpu myfyrwyr i fynd i’r afael â pheryglon cyffredin a’u goresgyn yn ystod eu cyfnod yn y brifysgol a datblygu strategaethau y gellir eu defnyddio bob dydd. Mae yna hefyd amrywiaeth o offer ac adnoddau ar gael a all helpu myfyrwyr i wella eu lles a'u hiechyd meddwl.

#Llesiant #unilife_cymraeg