Beicio i BRIT!

Mae PDC yn cynnal yr Her BRIT eleni gyda’r nod o gwblhau 2,023 o filltiroedd a chodi £2023 ar gyfer BRIT ac Ymddiriedolaeth Charlie Waller.

Er mwyn chwalu'r targed o 2,023 milltir mae Lles wedi rhoi beic ymarfer corff yn ardal eistedd Stilts. Os hoffech helpu i gyrraedd y targed hwn gallwch archebu slot amser ar y beic. Anfonwch e-bost at [email protected] gyda’r dyddiad a ph’un a hoffech chi slot yn y Bore (9am-12pm), hanner dydd (12-2pm), neu yn y Prynhawn (2pm-5pm)! Nid oes rhaid i chi feicio am y slot amser cyfan ond cyhyd ag y dymunwch o fewn y dyraniad amser hwnnw.

Peidiwch ag anghofio olrhain y milltiroedd rydych chi wedi'u gwneud ar y beic a'u hanfon at [email protected] Bydd y tîm yn gwneud y gweddill.

Os nad ydych wedi cofrestru eisoes, cofrestrwch yma ac os hoffech gyfrannu dilynwch y ddolen hon i GiveStar

#Llesiant #unilife_cymraeg