14-11-2022
Mae Wythnos Ymwybyddiaeth Pobl Trawsrywedd yn wythnos o ddathlu i godi amlygrwydd pobl drawsryweddol ac ymwybyddiaeth o'r materion y mae'r gymuned yn eu hwynebu. Penllanw’r wythnos fydd Diwrnod Coffa Trawsrywedd ar ddydd Sul 20 Tachwedd, sef diwrnod i gofio’r sawl sydd wedi colli eu bywydau o ganlyniad i drais trawsffobig.
Mae Wythnos Ymwybyddiaeth Pobl Trawsryweddol yn gyfle i ddangos cefnogaeth i pobl trawsryweddol, i annog didwylledd yng nghymuned y brifysgol ac i annog sgyrsiau gonest am y brwydrau y mae pobl trawsryweddol yn eu hwynebu.
Ar gyfer myfyrwyr trawsryweddol a staff yn y Brifysgol, mae'n gyfle i deimlo eu bod yn cael eu cydnabod gan eu gweithle neu addysg ac i gwrdd ag eraill sy'n cael profiadau tebyg. I'r cynghreiriaid, mae'n gyfle i addysgu eu hunain ymhellach ar y profiad trawsryweddol a dysgu sut i gefnogi eu ffrindiau trawsryweddol, eu cyd-ddisgyblion a'u cydweithwyr yn well.
Dylai'r Brifysgol fod yn fan lle gall cydweithwyr a myfyrwyr fod yn nhw eu hunain a chael eu trin ag urddas, parch a charedigrwydd. Un o'r ffyrdd y gall pawb helpu i gyflawni hynny yw bod yn rhagweithiol wrth ddefnyddio rhagenwau. Rhagenwau yw sut mae pobl yn cyfeirio atynt eu hunain, fel ef/hi.
Diwrnod Coffa Trawsrywedd yw ar ddydd Sul 20 Tachwedd. Diwrnod i gofio’r sawl sydd wedi colli eu bywydau o ganlyniad i drais trawsffobig.
I nodi'r Ddiwrnod Coffa Pobl Trawsryweddol, mae Llyfrgell PDC wedi creu rhestr darllen.
Ceir nifer o ffynonellau cymorth, cyngor a gwybodaeth i fyfyrwyr a staff y Brifysgol sy'n nodi eu bod yn LHDT+ (Lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, Trawsrywiol a chyfeiriadedd rhywiol a hunaniaeth o ran rhywedd arall).
Bydd y Brifysgol yn eich cefnogi os ydych chi'n trawsnewid neu os oes gennych gwestiynau am eich hunaniaeth o ran rhywedd. Gall myfyrwyr ofyn i'r enw a ffefrir ganddynt gael ei ddefnyddio trwy gydol eu hamser yn y brifysgol ac nid yw'n ofynnol iddynt ddarparu unrhyw ddogfennaeth gyfreithiol i wneud hyn. Am ragor o wybodaeth a chyngor, cysylltwch â [email protected].
Mae cymdeithas LGBT+ Undeb y Myfyrwyr yn darparu rhwydwaith cymdeithasol a chymorth i bobl o bob cyfeiriadedd rhywiol a hunaniaeth o ran rhywedd yn y Brifysgol.
Os ydych chi’n dioddef gydag amgylchiadau sy’n effeithio ar eich lles, mae Gwasanaeth Lles y Brifysgol yn cynnig amrywiaeth o gymorth ymarferol mewn lleoliad cyfrinachol, proffesiynol.
12-12-2022
23-11-2022
17-11-2022
14-11-2022
31-10-2022
07-10-2022
05-10-2022
05-09-2022
26-07-2022