Lansio platfform llesiant digidol: Togetherall

Mae PDC wedi partneru â Togetherall, platfform llesiant digidol lle mae pobl yn cefnogi ei gilydd yn ddienw i wella iechyd meddwl a lles.

P'un a ydych chi'n cael trafferth cysgu, yn teimlo'n isel neu'n ei chael hi'n anodd ymdopi, neu ddim ond eisiau'r cyfle i feddwl yn ddyfnach am eich lles, gall Togetherall eich helpu i archwilio'ch teimladau a meddwl am bethau.

Sut mae Togetherall yn gweithio

Mae Togetherall yn gymuned ar-lein sy’n cael ei chymedroli’n glinigol gan weithwyr iechyd meddwl proffesiynol ac sy’n cynnig lle diogel a dienw i fyfyrwyr fynegi eich meddyliau, eich pryderon a’ch buddugoliaethau. Mae Togetherall yn rhad ac am ddim i holl fyfyrwyr PDC ac ar gael 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn.

Mae Togetherall yn gyfle i chi dynnu cryfder a mewnwelediad o brofiadau bywyd go iawn eich cyfoedion. Mae hefyd yn ffordd i chi gael mynediad at ystod o offer hunan-gyfeiriedig, wedi'u dilysu'n glinigol i hybu iechyd meddwl a lles cadarnhaol.

Nodweddion ar gael yn Togetherall

  • Cysylltwch ag eraill sy'n profi meddyliau a theimladau tebyg
  • Mynegwch eich hun yn greadigol trwy luniadau neu eiriau
  • Cadwch olwg ar feddyliau a theimladau yn eich dyddlyfr eich hun
  • Nodi a gweithio tuag at eich nodau ac olrhain eich cynnydd
  • Cymerwch ran mewn cyrsiau ar-lein lle gallwch chi sgwrsio ag eraill a rhannu awgrymiadau ar yr hyn sy'n gweithio

I ddysgu mwy am Togetherall, gwyliwch yfideo esboniadol byrhwn a stori aelod-fyfyriwr.

Sut i ymuno

Mae gan holl fyfyrwyr PDC fynediad i gymorth iechyd meddwl a lles ar-lein am ddim gyda Togetherall. I ymuno, ewch i Togetherall.com a:

  • Dewiswch ‘Cofrestru’
  • Dewiswch ‘Rwy’n dod o brifysgol neu goleg’
  • Rhowch eich cyfeiriad e-bost myfyriwr.

Byddwch yn cofrestru gan ddefnyddio eich cyfeiriad e-bost myfyriwr, ond bydd eich proffil yn ddienw drwy ddewis enw defnyddiwr, sef sut rydych yn cael eich adnabod ar Togetherall.

#Llesiant #unilife_cymraeg