31-10-2022
Mae hunanofal yn golygu gofalu dros eich hun er mwyn sicrhau eich bod yn iach ac yn gallu gwneud yr holl bethau sydd angen i chi eu gwneud mewn diwrnod, cwblhau eich cwrs yn y brifysgol hyd eithaf eich gallu, a helpu a gofalu am eraill. Nid yw hunanofal yn hunanol. Mae’n bwysig cymryd y camau angenrheidiol i sicrhau eich bod yn byw bywyd iach a hapus.
Efallai eich bod eisoes yn gweithredu hanfodion hunanofal ond yr hoffech wneud mwy i helpu eich hun i ymlacio a rheoli eich lles meddyliol. Mae rhai yn poeni fod hunanofal yn ddrud, ond nid oes rhaid iddo fod. Rhowch gynnig ar rai o’r gweithgareddau hunanofal fforddiadwy hyn:
Gall ysgrifennu mewn dyddlyfr eich helpu i leisio’ch teimladau heb orfod eu rhannu ag eraill. Gall hefyd fod yn ffordd o dynnu sylw at y pethau yr ydych yn ddiolchgar amdanynt, neu'n hapus yn eu cylch, fel bod gennych chi ffordd o gofio'r pethau hyn pan fyddwch chi'n cael diwrnod heriol.
Gall symud eich corff a mwynhau’r awyr iach fod yn fuddiol. Mae mynd am dro yn gyfle i glirio'ch pen wrth fwynhau golygfeydd.Edrychwch ar restr teithiau cerdded Croeso Cymru i gael syniadau ar gyfer eich antur nesaf.
Os ydych chi wedi symud i’r brifysgol, gall fod yn hawdd colli cysylltiad â phobl o’ch cartref. Cymerwch amser i ailgysylltu â ffrindiau neu deulu. Gall siarad â rhywun sydd tu allan i’ch sefyllfa uniongyrchol roi perspective Newydd I chi ac mae'n rhoi cyfle i chi ailgysylltu a hen berthnasoedd.
Mae yna lawer o apiau sy’n cynnig gwahanol ddulliau o fyfyrio a meddwlgarwch. Gall bob myfyriwr ym Mhrifysgol De Cymru ddefnyddio’r ap Fika yn rhad ac am ddim. Mae gan Fika ystod eang o ymarferion gan gynnwys cymorth i gadw'n iach yn feddyliol. Lawrlwythwch yr ap a defnyddiwch eich e-bost prifysgol i ddechrau arni!
Os ydych yn glwm i'ch ffôn, gliniadur neu’ch oriawr, fel y rhan fwyaf ohonnom, datgysylltwch am awr bob dydd. Gall ap Hold eich ysgogi i wneud hyn. Maent yn rhoi gostyngiadau a chymhellion i chi am beidio â defnyddio'ch ffôn.
Mae ymdrochi ym myd ffuglen yn gyfle perffaith i hunanofalu. Trefnwch noson ffilm gyda ffrindiau, gwyliwch gyfres newydd gyda'ch gilydd, neu darllenwch nofel.
Efallai eich bod chi'n ystyried eich hun yn berson naturiol creadigol neu efallai nad ydych yn teimlo eich bod yn greadigol o gwbl. Beth bynnag fo’ch sgiliau, mae llwybr creadigol neu grefft ar gael i chi a gall fabwysiadu diddordeb newydd fod yn ffordd wych o wella eich iechyd meddwl wrth greu rhywbeth o’r newydd. Nid oes angen i chi greu campwaith, mae'r hyn rydych chi'n ei wneud ar eich cyfer chi yn unig. Gall arlunio, gwau, neu hyd yn oed wneud canhwyllau, i gyd fod yn ffyrdd gwych o gadw’n brysur heb deimlo eich bod yn gweithio’n galed.
Mae bwyd da yn falm i'r enaid. Mae cawliau cartref, cyris a chaserolau yn ffyrdd gwych o wneud i chi deimlo'n gartrefol. Maent yn rhad ac yn hawdd i'w gwneud. Fel arall, gwnewch bryd o fwyd sy'n eich atgoffa o gartref. Os nad ydych yn hyderus wrth goginio, mae'r Gwasanaeth Lles yn cynnal cyfres o Ddosbarthiadau Coginio sy'n rhoi awgrymiadau ac argymhellion i chi ar sut i wneud pryd da.
Mae'r cydberthynas rhwng ymarfer corff a lles meddyliol da yn amlwg, felly pa ffordd well o wneud o hunanofalu na thrwy ymarfer corff. Ceisiwch fynd i'r gampfa, gwneud ymarfer corff gartref neu fynychu dosbarth yn FitZone. Mae cynyddu curiad eich calon yn ffordd wych o ganolbwyntio ar gryfhau'ch corff a'ch meddwl.
12-12-2022
23-11-2022
17-11-2022
14-11-2022
31-10-2022
12-10-2022
07-10-2022
05-10-2022
30-09-2022