21-04-2022
Mae prosiect lles ar y gweill ar hyn o bryd sy’n ceisio adolygu a gwella’r cymorth sydd ar gael i fyfyrwyr.
I’r perwyl hwn, rydym am ddeall pa welliannau lles y byddai myfyrwyr yn eu cael fwyaf buddiol. Cwblhewch yr holiadur ar-lein dienw nawr a rhowch wybod i ni. Ar ôl cwblhau'r holiadur, bydd gennych yr opsiwn i gael eich cynnwys mewn raffl gyda'r cyfle i ennill taleb Amazon gwerth £50.
Cynlluniwyd y cwestiynau i gasglu gwybodaeth am yr ymwybyddiaeth gyffredinol o gymorth lles sydd ar gael yn y brifysgol, sut mae gwybodaeth yn cael ei chyfleu, adnoddau cymorth digidol a gwefan y Gwasanaeth Lles.
Bydd eich adborth yn ein helpu i ganolbwyntio gwelliannau ar y meysydd cywir i gefnogi lles myfyrwyr. Y dyddiad cau ar gyfer cwblhau'r holiadur yw dydd Gwener 6 Mai.
12-12-2022
23-11-2022
17-11-2022
14-11-2022
31-10-2022
12-10-2022
07-10-2022
05-10-2022
30-09-2022