Hiraeth

Homesickness Cymraeg Graphic


Mae symud i ffwrdd i'r brifysgol yn gam mawr i unrhyw un ac nid yw'n anarferol teimlo hiraeth. I lawer, dyma'r tro cyntaf iddynt adael amgylchedd y cartref - gan gynnwys ffrindiau, teulu a lleoedd cyfarwydd. 

Mae'r amser hwn yn un cyffrous ac ysgogol i lawer o fyfyrwyr - cyfle am newid a thwf; ond i eraill efallai na fydd yn cael yr un effaith. 

Beth yw hiraeth? 

Mae hiraeth yn digwydd yn ystod cyfnod o newid ac mae'n ymateb naturiol i golled ac addasu. Gall achosi teimladau o straen neu bryder, a achosir gan wahanu oddi wrth bobl a lleoedd rydych chi'n eu hadnabod. 

Gallai'r symptomau gynnwys: 

  • Ymgolli mewn meddyliau am adref 
  • Teimladau o alar, iselder ysbryd a phryder 
  • Teimlo'n ynysig, yn unig neu dynnu'n ôl 
  • Colli hyder 
  • Diffyg canolbwyntio 
  • Cwsg aflonydd 

Mae hiraeth yn digwydd amlaf ar ddechrau'r flwyddyn academaidd. Fel rheol mae'n fater tymor byr a phan gaiff ei gydnabod gellir ei oresgyn. 

Cofiwch fod yr hyn rydych chi'n ei deimlo yn normal 

Mae'n bwysig cofio bod yr amser a gymerir i ymgartrefu a graddfa'r anhawster a gawn wrth addasu i'n hamgylchedd newydd yn wahanol i bob person. Mae hiraeth yn rhywbeth y mae'r rhan fwyaf o bobl yn ei brofi ar ryw adeg yn eu bywyd - ac nid yw'n anghyffredin cael y teimladau hyn tra yn y brifysgol. P'un a ydych wedi aros yn agos at eich cartref neu wedi teithio i wlad newydd, ni waeth y pellter, mae hiraeth yn hollol normal. 

Cadw’n brysur 

Ceisiwch ddod i arfer â'ch amgylchedd newydd ac archwilio'r brifysgol a'ch amgylchedd newydd - cyn bo hir bydd yn dechrau teimlo fel adref. Ewch am dro, gwnewch ychydig o ymweldgwirfoddoli neu ymuno â chlwb neu gymdeithas

Mae gan y Brifysgol ystod eang o weithgareddau digidol ac ar y campws, sy'n ymroddedig i'ch helpu chi i ymgartrefu ym mywyd y Brifysgol. Bydd cymryd rhan mewn digwyddiadau a gweithgareddau hefyd yn helpu i dynnu’ch sylw oddi wrth eich teimladau o hiraeth. 

Cadwch mewn cysylltiad (ond ddim gormod) 

Gall cadw mewn cysylltiad â theulu a ffrindiau eich helpu i deimlo eich bod yn cael cefnogaeth a’ch bod mewn cysylltiad, sy'n bwysig ar gyfer addasu i le newydd. Cofiwch, yn yr un modd, y gall gormod o gyswllt wneud i chi deimlo'n fwy hiraethus ac ychwanegu at y teimladau hynny. 

Un o'r ffyrdd mwyaf dibynadwy i oresgyn hiraeth yw ymgolli ym mywyd y brifysgol, hyd yn oed os gallai hyn deimlo'n frawychus ar y dechrau. 

Dewch â rhywfaint o gysuron cartref gyda chi 

Does dim ots beth fydd gennych chi ond gall bod â phethau cyfarwydd o adref helpu i leddfu'ch teimladau o hiraeth. Gall pethau sydd â gwerth sentimental, fel lluniau o deulu neu rywbeth sydd yn golygu rhywbeth i chi, fel cofrodd neu eitemau o ddillad, eich helpu i deimlo'n gysylltiedig â'ch cartref hyd yn oed pan fyddwch i ffwrdd o’ch cartref. 

Gofalwch amdanoch eich hun 

Cadwch i fyny gyda’ch arferion ffitrwydd neu dechreuwch un newydd - bydd bod yn egnïol yn eich helpu i deimlo'n fwy cadarnhaolam fywyd prifysgol a'r bobl newydd rydych chi'n cwrdd â nhw. 

Bydd creu trefn realistig i chi'ch hun yn gwneud ichi deimlo'n fwy cadarnhaol a llawn cymhelliant. Bydd mynd i'r gwely ar yr un amser bob nos yn helpu cloc mewnol eich corff i ymgyfarwyddo ag amserlen cysgu newydd, a fydd yn ei dro yn eich helpu i syrthio i gysgu'n well yn y nos a deffro'n haws bob bore. 

Gall bwyta'ch hoff fwydydd gartref hefyd helpu i wneud ichi deimlo'n hapusach ac yn fwy diogel yn eich amgylchedd newydd ac mae eu cyflwyno i ffrindiau newydd yn ffordd hwyl o ddod i adnabod eich gilydd. 

Gofynnwch am help 

Y peth pwysicaf i'w gofio yw bod hiraeth - colli cynefindra a chysur eich cartref - yn hollol normal. Efallai ei bod yn anodd credu, ond bydd llawer o fyfyrwyr yn profi'r un peth. 

Os ydych chi'n cael trafferth gyda hiraeth, peidiwch â bod ofn siarad am eich teimladau. Mae gan y Brifysgol nifer o Wasanaethau Cymorth sy'n ymroddedig i sicrhau bod pob myfyriwr yn cael y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt. 

Adnoddau Lles 

Mae gan y Brifysgol ystod o wasanaethau i’ch cefnogi chi, ac mae yna lawer o bethau y gallwch chi roi cynnig arnyn nhw i helpu’ch lles.  Mae Apwyntiadau Cyngor Lles 30 munud ar gael ar y campws, dros y ffôn, a Microsoft Teams, a gellir eu harchebu trwy’r Ardal Gynghori Ar-lein.

Mae'r Brifysgol yn cynnal ystod o ddigwyddiadau a gweithgareddau un-tro a chyrsiau aml-sesiwn  sy'n ymwneud ag iechyd a lles. Nawr, yn fwy nag erioed, mae'n bwysig aros yn gysylltiedig, yn iach ac yn ymgysylltiedig. 

Gwybodaeth Ychwanegol 

Student Minds – Starting University

Host – Coping with homesickness as a student 

Prospects – What to do when you feel homesick

BBC – Feeling homesick? Try these tricks

GIG – Student Mental Health 

#Llesiant #unilife_cymraeg