07-10-2022
Bob blwyddyn ar Hydref y 10fed, rydym yn dathlu Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd. Mae’n gyfle i siarad am iechyd meddwl, cysylltu ag eraill a chodi ymwybyddiaeth o’r cymorth sydd ar gael.
Mae’n gyfle i ystyried sut rydych chi wedi bod yn teimlo yn ddiweddar. Mae llawer o bobl wedi profi newidiadau i’w hiechyd meddwl yn ystod eu cyfnod yn y brifysgol. Mae’n bosib y byddwch chi’n teimlo hiraethus am adref, yn poeni am arian, yn teimlo fod pwysau astudio yn ormod, neu’n poeni nad ydych chi’n ffitio i mewn. Mae’r teimladau hyn yn gyffredin iawn ac yn aml, maent yn diflannu wrth i chi ddod yn fwy cyfarwydd â bywyd yn y brifysgol.
Fodd bynnag, gall y teimladau hyn fynd yn drech na chi a datblygu'n iselder neu fathau eraill o broblemau iechyd meddwl. Nid oes unrhyw gywilydd cyfaddef eich bod yn cael anhawster rheoli eich iechyd meddwl.Mae’n bwysig bod yn ymwybodol o ddirywiad yn eich lles meddyliol. Os byddwch chi'n dechrau teimlo fel hyn, mae rhai pethau syml y gallwch chi eu gwneud i geisio gwella'ch iechyd meddwl:
Efallai nad ydych chi'n teimlo bod angen i chi gysylltu â'n Gwasanaethau Cymorth ond eich bod yn chwilio am ffyrdd o wella'ch iechyd meddwl. Mae gan y Gwasanaeth Lles lawer o adnoddau i’ch helpu i fynd i’r afael a’ch lles:
Mae Hyb Helpu Eich Hun yn darparu gwybodaeth am adnoddau hunangymorth, grwpiau cymorth, ymgyrchoedd, diwrnodau ymwybyddiaeth a llawer mwy.
Mae’r Llawlyfr Bywyd Myfyriwr yn cynnwys awgrymiadau a chyngor ar sicrhau iechyd meddwl a chorfforol da, a sut i gael cymorth os ydych ei angen:
Student Life Handbook (Saesneg)
Llawlyfr Bywyd Myfyriwr (Cymraeg)
Mae nifer o weithdai a chyrsiau ar y gweill i’ch helpu i reoli eich iechyd meddwl:
Yn y Foment
Dydd Mawrth 11 Hydref, 5.00pm - 6.30pm, Campws Casnewydd
Dydd Mercher 12 Hydref, 4.00pm - 5.30pm, Campws Trefforest
Dydd Mawrth 18 Hydref, 5.00pm - 6.30pm, Campws Caerdydd
Cŵn Therapi
Dydd Mercher 19 Hydref, 6.00pm - 7.00pm, Campws Caerdydd
Adnabod a Rheoli Eich Iechyd Meddwl
Dydd Mawrth 25 Hydref, 5.00pm - 7.00pm, Campws Caerdydd
Dydd Iau 27 Hydref, 5.00pm - 7.00pm, Campws Casnewydd
Mae'n bwysig cofio, beth bynnag fo’ch problem, nid oes rhaid i chi ei wynebu ar eich pen eich hun. Os oes gennych gyflwr iechyd meddwl, neu fod eich iechyd wedi gwaethygu, ac nid ydych yn teimlo y gallwch ymdopi ar eich pen eich hun mwyach, mae’r Gwasanaeth Lles yma i’ch cefnogi. Maent yn cynnig amrywiaeth o gymorth ymarferol mewn lleoliad cyfrinachol a phroffesiynol.
Apwyntiadau Cyngor Lles yw’ch man cyswllt i’r Gwasanaeth Lles, lle cewch gyfle i drafod cefnogaeth yn y brifysgol, eich iechyd meddwl, a’ch lles. Mae apwyntiadau’n 30 munud o hyd ac ar gael ar y campws, dros y ffôn, dros Microsoft Teams. Gellir eu trefnu drwy’r Ardal Gynghori Ar-lein.
12-12-2022
23-11-2022
17-11-2022
14-11-2022
31-10-2022
12-10-2022
07-10-2022
05-10-2022
30-09-2022