Ddiwrnod Gwelededd Trawsryweddol - Defnyddio’r rhagenwau cywir

Transgender Day of Visibility flag.png

Mae heddiw yn Ddiwrnod Rhyngwladol Gwelededd Trawsryweddol, digwyddiad blynyddol i ddathlu  pobl drawsryweddol ac anneuaidd, a phobl nad ydynt yn cydymffurfio’n rhyweddol, ac i godi ymwybyddiaeth o'r gwahaniaethu  y mae llawer o bobl  yn dal i'w wynebu ledled y byd. 

Dylai'r Brifysgol fod yn fan lle gall cydweithwyr a myfyrwyr fod yn nhw eu hunain a chael eu trin ag urddas, parch a charedigrwydd.

Un o'r ffyrdd y gall pawb helpu i gyflawni hynny yw bod yn rhagweithiol wrth ddefnyddio rhagenwau. 

Beth yw rhagenwau?

Rhagenwau yw sut mae pobl yn cyfeirio atynt eu hunain, fel ef/hi. Mae'n well gan rai pobl ddefnyddio nhw/nhw neu ze/zir.

Pam mae rhagenwau'n bwysig?

Mae defnyddio'r rhagenwau a ffefrir gan bobl yn dangos eich parch tuag at y ffordd yr hoffent gael eu cydnabod fel person. Gall defnyddio'r rhagenw anghywir frifo a gall fod yn amharchus. 

Pedwar peth syml y gallwch eu gwneud o heddiw ymlaen:

1. Gofynnwch i bobl beth yw eu rhagenw yn union fel y byddech yn gofyn am yr enw a ffefrir ganddynt (mewn sgwrs ac mewn dogfennau).

2. Defnyddiwch y rhagenw hwnnw. 

3. Nodwch eich rhagenwau yn eich llofnod e-bost. 

4. Cyflwynwch eich hun gyda'ch rhagenw, er enghraifft, ar ddechrau cyfarfod. 

Ychwanegu rhagenwau at eich llofnod e-bost 

Gallwch ychwanegu 'hi/ei' ar ôl eich enw neu

'Fy rhagenwau i yw ‘hi/ei'


Gallwch ychwanegu 'ef/fe/ei’ ar ôl eich enw neu

'Fy rhagenwau i yw ‘ef /fe/ei’ 


Gallwch ychwanegu '(nhw/eu)' ar ôl eich enw neu

'Fy rhagenwau i yw ‘nhw/eu’ 


#Ymwybyddiaeth #Llesiant #unilife_cymraeg