12-12-2022
Mae tŷ gwag yn darged hawdd ar gyfer lladron. Cyn i chi fynd, gwnewch yn siŵr eich bod yn:
Os oes gennych chi'r dechnoleg, gofynnwch i'r goleuadau yn y tŷ ddod ymlaen ar adegau penodol
Os ydych chi’n gyrru adref dros y Nadolig, gwnewch yn siŵr eich bod wedi gwirio’ch car cyn i chi fynd (lefelau hylif, petrol, teiars). Mae'r tywydd yr adeg hon o'r flwyddyn yn anrhagweladwy; gwnewch yn siŵr eich bod yn pacio diod a rhai pethau nad ydynt yn ddarfodus yn ogystal â blanced.
Mae darparwyr rheilffyrdd yn cynghori y bydd gweithredu diwydiannol arfaethedig yn effeithio ar nifer o deithiau ar 13-14, 16-17, 24-27 Rhagfyr a 3-4, 6-7 Ionawr. Mae Trafnidiaeth Cymru yn cynghori cwsmeriaid i beidio â theithio ar y trên ar y dyddiadau hyn gan y bydd y mwyafrif o wasanaethau rheilffordd ar draws rhwydwaith Cymru a’r Gororau yn cael eu hatal.
Ar gyfer myfyrwyr rhyngwladol neu fyfyrwyr sy'n teithio dramor, cofiwch wirio canllawiau teithio a gofynion gwisgo masgiau ar gyfer y wlad y byddwch yn teithio iddi.
Mae'r Nadolig yn amser i ymlacio - yn enwedig gan eich bod wedi bod yn astudio'n galed dros y misoedd diwethaf. Mae’n arferol edrych ymlaen at dreulio amser gyda ffrindiau a theulu i ddathlu. Os ydych chi'n mynd ar noson allan, gwnewch yn siŵr eich bod yn gwybod i ble rydych chi'n mynd, sut rydych chi'n cyrraedd a gyda phwy rydych chi'n cwrdd. Parchwch y rhai o’ch cwmpas – mae ganddyn nhw hawl i gael amser da hefyd.
Er holl hwyl a dathliadau’r tymor gwyliau, i lawer gall fod yn gyfnod o unigrwydd neu bryder. Os ydych chi'n cael y Nadolig yn anodd, cofiwch:
Efallai y byddwch hefyd am archwilio Togetherall - cymuned ar-lein sy'n cael ei safoni'n glinigol ac sy'n cynnig lle diogel a dienw i fyfyrwyr archwilio'ch teimladau a meddwl am bethau. Mae Togetherall yn rhad ac am ddim i holl fyfyrwyr PDC ac ar gael 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn.
Mae Hyb Helpu eich Hun y Gwasanaethau Llesiant yn darparu nifer o adnoddau defnyddiol ar gyfer rhagor o wybodaeth, cyngor a chymorth yn ystod tymor y Nadolig.
Yn olaf, byddwch yn falch o bopeth rydych wedi'i gyflawni y tymor hwn a chofiwch neilltuo ychydig o amser i orffwys ac adennill nerth cyn y Flwyddyn Newydd.
Gallwch ddod o hyd i ragor o gyngor diogelwch sy'n berthnasol i bob tymor ar y tudalennau gwe Diogelwch Myfyrwyr
12-12-2022
23-11-2022
17-11-2022
14-11-2022
31-10-2022
12-10-2022
07-10-2022
05-10-2022
30-09-2022