Bwyta'n iach ar Gyllideb Myfyrwyr

healthy eating cym


Mae symud i’r brifysgol yn gyfnod cyffrous. Mae’n bosib y bydd gennych fwy o ryddid i wneud dewisiadau nag erioed o'r blaen. P'un a ydych chi wedi bod yn gyfrifol am eich bwyd eich hun ers blynyddoedd neu fod hyn yn brofiad newydd, mae angen i chi sicrhau eich bod chi'n bwyta'r bwyd cywir ar gyfer eich corff yn ystod cyfnod mor brysur yn eich bywyd. Gall y Brifysgol fod yn gyfle gwych i greu arferion bwyta iach a fydd yn parhau gydol eich oes.

Beth yw bwyta'n iach?

Mae bwyta’n iach yn golygu ‘bwyta amrywiaeth o fwydydd sy’n rhoi’r maeth sydd ei angen arnoch i sicrhau iechyd da, teimlo’n dda, a chael egni’. Mae'r Canllaw Bwyta'n Iach yn argymell bwyta diet amrywiol i gael y cydbwysedd cywir o broteinau, brasterau a charbohydradau, ymysg y bwydydd sy’n dda i chi.

Er y gallai fod yn demtasiwn i brynu bwyd i fynd a phrydau parod, gyda dim ond ychydig o gynllunio, gallwch ddod o hyd i ddiet iach a llwyddiannus heb orfod treulio gormod o amser, ymdrech na chost.

Pam fod bwyta'n dda yn bwysig?

Mae bwyta diet iach a chytbwys yn ein helpu i deimlo'n dda a chadw’n iach. Gall y ffordd rydyn ni'n bwyta cael effaith fawr ar sut rydyn ni'n teimlo. Er y gall fwydydd afiach fod yn flasus, gall diet cytbwys gynnig yr egni a’r stamina sydd ei angen arnoch. Ewch at dudalen Food and Mood gan MIND am ragor o wybodaeth a chyngor.

Syniadau ar gyfer bwyta'n iach ar gyllideb

Nid oes angen i fwyta’n dda fod yn ddrud. Gyda’r dulliau canlynol, gall fwyta’n iach fod yn ddarbodus ac fe all gostio llai na bwyd i fynd. 

  • Cynlluniwch- gall apiau fel Yummly lunio rhestrau siopa i chi yn seiliedig ar yr hyn rydych chi'n bwriadu ei fwyta.
  • Cyllideb wythnosol - bydd torri'n ôl ar ychydig o bethau moethus yn gwneud gwahaniaeth mawr i'ch cyllideb bwyd.
  • Ceisiwch beidio â siopa pan fydd chwant bwyd arnoch - byddwch yn llai tebygol o brynu pethau’n fyrbwyll.
  • Coginiwch o gynhwysion craidd - mae paratoi a choginio eich prydau eich hun yn rhatach ac yn iachach.
  • Dysgwch sut i ddefnyddio sesnin - gallant droi rhywbeth plaen yn rhywbeth blasus heb fawr o gost.
  • Coginiwch ormod o’r un pryd- gallwch rewi'r hyn nad ydych yn ei fwyta, neu ei fwyta'r diwrnod canlynol.
  • Gall newidiadau bychain wneud gwahaniaeth mawr - newidiwch eich reis gwyn am reis brown, siwgr am fêl, bara gwyn am fara grawn. Ni fydd y newidiadau hyn yn ddrud, a byddant yn cael effaith gadarnhaol ar eich lles.

Dosbarthiadau coginio

Er ei bod hi’n hawdd dod o hyd i ryseitiau ar gyfer prydau iach, efallai nad ydych yn teimlo’n ddigon hyderus i’w paratoi. Os nad ydych wedi cael llawer o brofiad wrth goginio, peidiwch â phoeni – mae hyn yn Newydd I lawer o fyfyrwyr. Mae'r Gwasanaeth Lles wedi trefnu nifer o ddosbarthiadau coginio lle gallwch ddysgu sgiliau sylfaenol i'ch helpu i wneud eich prydau eich hun tra'n byw oddi cartref.

Cysylltwch â [email protected] i gadw lle.

Ryseitiau ac Adnoddau Bwyta'n Iach

Pam 5 y dydd? – Rydym wedi clywed droeon fod angen i ni fwyta 5 ffrwythau a llysiau'r dydd, ond beth sy’n cyfrif mewn gwirionedd?

Ryseitiau i Fyfyrwyr gan y BBC – Ryseitiau rhad a syml I fyfyrwyr.

BBC Food - Bwyd i Fyfyrwyr – Ryseitiau hawdd a rhad sy’n addas i gogyddion dibrofiad.

The Student Food Project  - Ryseitiau rhad, cyflym a hawdd.

The Food Medic: Educational Hub – Gwybodaeth ar bopeth gan gynnwys iechyd meddwl a maeth.

Cooking on a Bootstrap – gwefan ryseitiau rhad.

#Llesiant #unilife_cymraeg