09-05-2022
Mae'r gwasanaeth iechyd yn cychwyn ar gyfnod pontio ac yn ceisio adolygu a gwella'r gwasanaeth sydd ar gael i fyfyrwyr.
I'r perwyl hwn, rydym am ddeall pa welliannau fyddai fwyaf buddiol i fyfyrwyr. Cwblhewch yr holiadur hwn a rhowch wybod i ni. Ar ôl cwblhau'r holiadur, byddwch yn cael eich cynnwys mewn raffl i ennill 1 o 5 E-daleb Amazon gwerth £10 sydd ar gael.
Cynlluniwyd y cwestiynau i gasglu gwybodaeth am yr ymwybyddiaeth gyffredinol o'r cymorth Iechyd/Nyrs sydd ar gael yn y brifysgol, sut mae gwybodaeth a chyngor yn cael eu cyfathrebu, a pha newidiadau, os o gwbl, yr hoffai myfyrwyr eu cael.
Bydd eich adborth yn ein helpu i ganolbwyntio ar welliannau yn y meysydd cywir i sicrhau y gallwn gefnogi myfyrwyr yn effeithiol i ofalu am a gwella eu hiechyd corfforol. Y dyddiad cau ar gyfer cwblhau'r holiadur yw dydd Gwener 27 Mai.
12-12-2022
23-11-2022
17-11-2022
14-11-2022
31-10-2022
12-10-2022
07-10-2022
05-10-2022
30-09-2022