16-11-2021
Mae Wythnos Ymwybyddiaeth Pobl Trawsryweddol yn gyfle i ddangos cefnogaeth i fyfyrwyr a staff trawsryweddol, i annog didwylledd a chynghreiriad yng nghymuned y brifysgol ac i annog sgyrsiau gonest am y brwydrau y mae pobl trawsryweddol yn eu hwynebu. Yn y DU, mae pobl trawsryweddol yn delio'n rheolaidd â cham-drin ac anghydraddoldeb yn eu bywydau beunyddiol.
Mae Stonewall yn dyfynnu:
Yr anallu hwn i fyw'n agored heb ofni trais na gwahaniaethu yw pam mae Wythnos Ymwybyddiaeth Pobl Trawsryweddol yn hanfodol. Ar gyfer myfyrwyr trawsryweddol a staff yn y Brifysgol, mae'n gyfle i deimlo eu bod yn cael eu cydnabod gan eu gweithle neu addysg ac i gwrdd ag eraill sy'n cael profiadau tebyg. I'r cynghreiriaid, mae'n gyfle i addysgu eu hunain ymhellach ar y profiad trawsryweddol a dysgu sut i gefnogi eu ffrindiau trawsryweddol, eu cyd-ddisgyblion a'u cydweithwyr yn well.
Gellir, ac fe ddylid archwilio hunaniaeth o ran rhywedd heb fod ofn. Bydd y Brifysgol yn eich cefnogi os ydych chi'n trawsnewid neu os oes gennych gwestiynau am eich hunaniaeth o ran rhywedd. Gall myfyrwyr ofyn i'r enw a ffefrir ganddynt gael ei ddefnyddio trwy gydol eu hamser yn y brifysgol ac nid yw'n ofynnol iddynt ddarparu unrhyw ddogfennaeth gyfreithiol i wneud hyn. Am ragor o wybodaeth a chyngor, cysylltwch â [email protected]
Mae cymdeithas LGBT+ Undeb y Myfyrwyr yn darparu rhwydwaith cymdeithasol a chymorth i bobl o bob cyfeiriadedd rhywiol a hunaniaeth o ran rhywedd yn y Brifysgol.
Ddydd Gwener 19eg Tachwedd 9.30am - 11.00am, bydd Undeb y Myfyrwyr yn cynnal bore coffi rhithwir i nodi Diwrnod Coffa Pobl Trawsryweddol. Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth a chyfrannu at y Llyfr Myfyrio Digidol yma.
Ar ddydd Sadwrn 20fed Tachwedd am 2.30pm, mae Pride Cymru - ar y cyd â Chynghrair Traws Cymru - wedi trefnu gwylnos ar gyfer Diwrnod Coffa Pobl Trawsryweddol. Bydd hyn yn digwydd ar risiau'r Senedd ym Mae Caerdydd. Bydd siaradwyr yn bresennol, ynghyd â chyfleoedd i fynychwyr fyfyrio a thrafod eu profiadau. Am fanylion pellach, gwiriwch yma.
Cymorth ac Adnoddau ar gyfer Pobl Trawsryweddol.
Dewch o hyd i grŵp cymorth pobl trawsryweddol yn eich ardal chi: Trans Unite
Cefnogaeth i bobl trawsryweddol yng Nghymru: Wales Trans Resources
Cwestiynau Cyffredin am yr hyn y mae'n ei olygu i fod yn berson trawsryweddol a lle mae'r DU yn sefyll wrth drin pobl trawsryweddol: Stonewall - The Truth About Trans
10-12-2021
01-12-2021
24-11-2021
17-11-2021
16-11-2021
15-11-2021
25-10-2021
14-10-2021
14-10-2021