25-10-2021
Y menopos yw pan fydd ein mislif yn stopio ac ni allwn feichiogi'n naturiol mwyach. Yn y DU, yr oedran cyfartalog ar gyfer y menopos yw 51.
Nid yw hyn yn digwydd dros nos, cyn hyn rydym yn profi'r perimenopos. Gall y trawsnewidiad graddol hwn sy'n arwain at y menopos, bara ychydig fisoedd neu i eraill gall fod yn flynyddoedd. Mae'r perimenopos yn para 4 blynedd ar gyfartaledd ac yn dechrau tua 45 oed. Dywed yr Elusen Menopos y gallwn brofi newidiadau gan gynnwys…
Thema eleni ar gyfer diwrnod ymwybyddiaeth y menopos oedd iechyd esgyrn. Rydym yn datblygu dwysedd ein hesgyrn trwy gydol ein bywydau, fel plant, pobl ifanc yn eu harddegau ac fel oedolion. Rhwng 30-40 oed mae dwysedd ein hesgyrn yn gostwng. Yn ystod y cam menopos, mae iechyd esgyrn hefyd yn dechrau lleihau. Mae cynhyrchu estrogen, sy'n helpu i atgyweirio strwythur esgyrn, yn lleihau. Gall hyn gynyddu’r perygl o anhwylderau esgyrn a chyhyrau fel osteoporosis a sarcopenia.
Beth ellir ei wneud i helpu? Mae'r Gymdeithas Frenhinol Osteoporosis yn cynnig cyngor:
Sefydlodd Eileen Munson, Uwch Ddarlithydd mewn Ymarfer Uwch a Nyrsio Iechyd Cymunedol, y Lolfa Menopos i addysgu a grymuso menywod.
Elusen Menopos – Ffeithiau, Cyngor a Chymorth
Menopos | Swyddfa Iechyd Menywod (womenshealth.gov)
Cymdeithas Frenhinol Osteoporosis – Elusen Osteoporosis y DU (theros.org.uk)
10-12-2021
01-12-2021
24-11-2021
17-11-2021
16-11-2021
15-11-2021
25-10-2021
14-10-2021
14-10-2021