05-07-2021
Mae'r gwasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu Caerdydd a’r Fro’n annog pobl rhwng 18 a 29 oed i fod yn effro i symptomau ehangach Covid-19 a chael eu profi os oes ganddynt unrhyw un o'r rhain.
Mae achosion o Covid-19 wedi bod yn cynyddu'n gyson yn y rhanbarth gyda'r mwyafrif yn effeithio ar bobl iau, gan gynnwys ein poblogaeth myfyrwyr a'r rhai sy'n byw mewn llety a rennir.
Gan fod y grŵp oedran hwn yn llai tebygol o fod wedi cael y ddau ddos o frechlyn Covid-19 mae'n arbennig o bwysig eu bod yn wyliadwrus ac yn cael eu profi os ydynt yn dangos unrhyw symptomau.
Tri phrif symptom Covid-19 yw peswch, twymyn, a/neu golli blas neu arogl. Os oes gennych unrhyw un o'r symptomau hyn, rhaid i chi gael prawf a hunanynysu ynghyd â'ch cartref ehangach. Mae hyn yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru.
Gall Covid-19 fod yn ysgafnach mewn pobl iau. Gall amrywiolyn Delta yn arbennig hefyd achosi ystod ehangach o symptomau yn ei gamau cynnar. Mae'r gwasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu yn annog pobl i gael prawf hefyd os oes ganddynt ystod ehangach o symptomau sy'n newydd neu’n anarferol. Y rhain yw blinder, myalgia (poenau neu wynegu yn y cyhyrau), llwnc tost, pen tost, trwyn yn rhedeg, cyfog, chwydu, neu ddolur rhydd.
Mae ychydig o gamau syml y gallwch eu cymryd i helpu i gadw eich hun, ffrindiau a theulu'n ddiogel.
10-12-2021
01-12-2021
24-11-2021
17-11-2021
16-11-2021
15-11-2021
25-10-2021
14-10-2021
14-10-2021