24-11-2021
Yn ôl y Cenhedloedd Unedig, bydd 1 o bob 3 merch yn profi trais a cham-drin gan gynnwys cam-drin domestig, treisio a thrais rhywiol, anffurfio organau cenhedlu benywod, priodas dan orfod, camfanteisio rhywiol, aflonyddu, stelcio, a thrais yn seiliedig ar ‘anrhydedd’. Mae UN Women yn adrodd bod pob math o drais yn erbyn menywod a merched, yn enwedig trais domestig, wedi dwysáu, ers dechrau'r pandemig COVID-19, y cyfeirir ato fel Pandemig Cysgodol.
Yr anallu hwn i fyw heb ofni camdriniaeth yw pam mae'r Diwrnod Rhyngwladol ar gyfer Dileu Trais yn erbyn Menywod yn hanfodol. Mae'n gyfle i addysgu ein gilydd ar faterion fel cydsyniad a pherthnasoedd camdriniol; yn ogystal â chefnogi goroeswyr camdriniaeth a thrais wrth rannu eu straeon a cheisio cymorth.
Mae profiadau o drais a cham-drin yn wahanol i bob unigolyn. Efallai y bydd rhai menywod eisiau siarad â'r heddlu, efallai na fydd eraill yn teimlo'n gyffyrddus yn adrodd am ddigwyddiadau o drais ond y byddant yn dal eisiau siarad â rhywun.
New Pathways
Os ydych wedi profi ymosodiad rhywiol neu drais rhywiol, boed yn ddiweddar neu'n hanesyddol, gallwch hunangyfeirio at New Pathways. Yn ystod oriau swyddfa gallwch eu ffonio ar: 01685 379310; a’r tu allan i oriau gallwch eu ffonio ar eu llinell gwasanaethau SARC 24 awr: 07423437020. Byddant yn sicrhau’r cyngor a'r gefnogaeth uniongyrchol sydd eu hangen arnoch ac mae cyfranogiad yr heddlu yn ddewisol.
Llinell Gymorth Byw Heb Ofn
Os ydych wedi profi cam-drin domestig, trais rhywiol a/neu drais yn erbyn menywod, neu'n poeni am ffrind neu berthynas sy'n profi unrhyw fath o drais neu gam-drin, gallwch ffonio'r Llinell Gymorth Byw Heb Ofn ar 0808 80 10 800 neu drwy neges destun 24/7 ar 078600 77 333.
Gwasanaeth Lles PDC
Mae digwyddiadau cam-drin yn cael effaith ddifrifol ar iechyd meddwl a lles - mae'r tîm Lles yma i'ch cefnogi gyda hyn. Gallwch drefnu apwyntiad gyda Chynghorydd Lles i drafod unrhyw broblemau rydych chi'n eu hwynebu ac i gael cefnogaeth barhaus.
Ymgyrch Y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol ar gyfer Dileu Trais yn erbyn Menywod eleni yw Oren y Byd. Bydd adeiladau eiconig a thirnodau ledled y byd yn cael eu troi’n oren i gofio’r angen am ddyfodol heb drais.
Yn ogystal, mae'r Universal Peace Federation wedi trefnu digwyddiad coffáu ar-lein ar 30ain Tachwedd am 5.30pm. Bydd y digwyddiad hwn yn cynnwys siaradwyr o elusennau fel White Ribbon a bydd yn canolbwyntio ar ymgyrch y Cenhedloedd Unedig ‘UNITE by 2030 to End Violence Against Women’. Gallwch gofrestru i fynychu'r digwyddiad yma ac mae mynediad am ddim.
Mae academyddion yn PDC wedi sefydlu rhwydwaith ymchwil newydd i weithio tuag at ddileu Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (VAWDASV).
Arweinir y rhwydwaith ymchwil gan Dr Sarah Wallace, Uwch Gymrawd Ymchwil yn Sefydliad Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cymru (WIHSC), a Dr Emily Underwood-Lee, Athro Cysylltiol Astudiaethau Perfformiad yng Nghanolfan George Ewart Evans ar gyfer Adrodd Storïau, Prifysgol De Cymru. Fe'i cefnogir gan Gyfadran y Diwydiannau Creadigol a Chanolfan PRIME Cymru, a’i lywodraethu gan grŵp craidd o academyddion, llunwyr polisi, ac ymarferwyr o'r sector VAWDASV yng Nghymru. Bydd hefyd yn cael ei gefnogi gan aelod ymroddedig o staff o Uned Atal Trais Cymru yn Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Y nod yw datblygu cymuned ymchwil gynhwysol i Gymru sy'n darparu fforwm diogel, agored i ddod â'r rhai sy'n gweithio tuag at roi diwedd ar VAWDASV i osod agenda ymchwil y dyfodol, meithrin cydweithredu a datblygu ceisiadau am grant, ymgymryd ag ymchwil o ansawdd uchel, a gweithio tuag at ddileu VAWDASV.
Bydd y rhwydwaith ymchwil yn cael ei lansio'n swyddogol mewn digwyddiad ar Gampws Caerdydd ddydd Iau 25 Tachwedd. Bydd y digwyddiad yn cael ei ddarlledu ar sianel YouTube PDC nos yfory am 7.30pm.
Heddlu De Cymru – gan gynnwys rhestr o elusennau cymorth ardal-benodol.
10-12-2021
01-12-2021
24-11-2021
17-11-2021
16-11-2021
15-11-2021
25-10-2021
14-10-2021
14-10-2021