08-10-2019
Fel myfyriwr, mae angen i chi fwyta'r tanwydd cywir i'ch corff am gyfnod prysur iawn yn eich bywyd - gall bod yn y brifysgol fod yn gyfle gwych i greu arferion bwyta gydol oes iach.
Beth yw bwyta'n iach?
Mae bwyta’n iach yn golygu ‘bwyta
amrywiaeth o fwydydd sy’n rhoi’r maetholion sydd eu hangen arnoch i gynnal eich
iechyd, teimlo’n dda, a chael egni’. Mae’r
Canllaw Bwyta’n Dda yn argymell bwyta deiet amrywiol i gael y
cydbwysedd cywir o broteinau, brasterau a charbohydradau, ar ffurf bwydydd sy'n
dda i chi.
Er y gallai fod yn demtasiwn syrthio i'r arfer o gymryd prydau tecawê a phrydau parod, gyda dim ond ychydig o gynllunio ymlaen llaw, gallwch ddod o hyd i ddeiet iach sy'n gweithio i chi heb ormod o amser, ymdrech na chost.
Pam mae bwyta'n dda yn bwysig?
Mae bwyta deiet iach, cytbwys nid yn unig yn ein helpu i edrych a theimlo'n dda, ond mae'n ein helpu i gadw'n iach. Gall y ffordd rydyn ni'n bwyta hefyd gael effaith fawr ar sut rydyn ni'n teimlo. Er y gall bwydydd afiach fodloni'r daflod, gall deiet cytbwys roi'r egni a'r stamina cywir sydd eu hangen arnoch; edrychwch ar Food and Mood MIND i gael mwy o wybodaeth a chyngor.
Awgrymiadau ar gyfer bwyta'n iach ar gyllideb
Ryseitiau ac Adnoddau Bwyta'n Iach
5 A Day on the go – Dywedir wrthym yn aml fod angen i ni fwyta 5
ffrwyth a llysiau bob dydd, ond beth sy'n cyfrif mewn gwirionedd?
BBC Good Food Student Recipes - Ryseitiau myfyrwyr rhad a hwyliog, syml i'w
gwneud.
BBC Food,
Student Food - Ryseitiau hawdd nad ydyn nhw'n
torri'r banc ac sy'n wych ar gyfer cogyddion newydd.
StudentCooking.tv - Prydau maethlon ar gyllideb, sy’n blasu’n
wych.
The Food Medic: Educational Hub - Popeth o iechyd meddwl i faeth gan Alumni
PDC, y meddyg bwyd.
Cooking on a Bootstrap - gwefan #1 ar gyfer ryseitiau ar gyllideb.
25-10-2019
10-10-2019
09-10-2019
08-10-2019
02-10-2019
01-10-2019
17-09-2019