A ydych CHI neu rywun rydych chi'n ei adnabod yn teimlo'n sâl?
Yn aml iawn nid oes angen i ni weld meddyg teulu, mae llawer o anhwylderau cyffredin yn golygu nad oes angen datrysiad gan feddyg teulu ac yn aml mae opsiynau cyflymach a gwell ar gael. Efallai y gall dewisiadau eraill gan weithwyr gofal iechyd proffesiynol eich helpu i gael y driniaeth orau i chi.
Mae GIG 111 Cymru ar gael 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos, a gellir ei gyrchu ar-lein neu drwy ffonio ‘111’.
Mae gwefan GIG 111 Cymru, yn darparu amrywiaeth o wybodaeth am gyflyrau iechyd a salwch, gwiriwr symptomau ac arweiniad ar bwy y gallwch gysylltu â nhw i gael y gofal cywir.
Os byddwch yn ffonio GIG 111 Cymru, bydd y sawl sy'n delio â'r alwad yn asesu'ch cyflwr ac yn rhoi cyngor a gwybodaeth gofal iechyd i chi.
Yng Nghaerdydd, GIG 111 Cymru hefyd yw'r llwybr y byddech chi'n ei ddilyn pe bai angen i chi fynd i'r Uned Frys, yr Uned Mân Anafiadau neu i gael mynediad at ofal y tu allan i oriau. Os yw eich cyflwr iechyd yn un brys, ond nid yw'n peryglu bywyd, yna dylech ffonio 111 yn gyntaf cyn mynychu.
Mae Dewis Sylfaenol yn ymgyrch newydd i helpu aelodau
o'r cyhoedd i ddewis y cyngor iechyd cywir sydd ar gael yn y gymuned
leol. Drwy wneud y Dewis Sylfaenol cywir, gall eich meddyg teulu
dreulio amser gyda'r cleifion mwyaf agored i niwed, cymhleth a sâl iawn.
Gall ein gwasanaeth dan arweiniad Nyrs eich helpu a'ch
cynghori.
Gallwn eich helpu i gofrestru gyda meddyg teulu lleol neu benderfynu pa wasanaeth sydd ei angen arnoch. Os na all Gwasanaeth Iechyd PDC helpu gyda'ch mater, ystyriwch y gwasanaethau isod:
Os nad ydych yn gwybod pa opsiwn i’w ddewis, cysylltwch â GIG 111 Cymru ar 111 neu Gwiriwch eich symptomau gyda Gwiriwr Symptomau GIG 111 Cymru.