Tîm bach o nyrsys ydym sy'n ymdrechu i helpu myfyrwyr i ddatblygu sgiliau newydd i rymuso eu hunain a dod yn fwy cyfrifol am eu hiechyd a'u lles eu hunain. Rydym yn gweithio gyda chydweithwyr fel rhan o'r Tîm Llesiant a gyda'n gilydd rydym yn cynnig cyngor a chefnogaeth am ddim yn ymwneud ag iechyd, iechyd meddwl a chwnsela i holl Fyfyrwyr PDC. P'un ai yw ar y campws neu i ffwrdd o’r campws, ychydig o drwyn yn rhedeg neu rywbeth mwy difrifol, rydyn ni yma i'ch helpu chi yn y ffordd orau bosib.
Helô! Fy enw i yw Beth, rydw i wedi gweithio i PDC ers bron i 3 blynedd, cyn hynny roeddwn i'n gweithio i'r GIG mewn amrywiol adrannau, y sector Preifat a hefyd i'r Heddlu. Mae'r holl brofiad hwn wedi dod yn ddefnyddiol iawn ar gyfer iechyd myfyrwyr, mewn ffyrdd a fyddai'n eich synnu! Afraid dweud nad yw'n hawdd fy synnu na’m cywilyddio. Yr adborth rwy'n ei werthfawrogi fwyaf yw bod myfyrwyr yn ei chael hi'n hawdd iawn siarad â mi a gwerthfawrogi fy null siarad plaen.
Rwyf wrth fy modd â'r gwaith amrywiol a ddaw yn sgil gweithio yn PDC. Yn ogystal ag ymdrin ag anafiadau a salwch, un o'r agweddau ar fy swydd rwy'n ei mwynhau fwyaf ac yn teimlo sy'n rhan hanfodol o'n rôl yw galluogi a chefnogi myfyrwyr i ddysgu cymryd cyfrifoldeb a gofalu am eu hiechyd a'u lles eu hunain.