Mae Gwasanaeth Iechyd y Brifysgol yn wasanaeth a arweinir gan Nyrsys sydd ar gael i fyfyrwyr drafod neu reoli unrhyw faterion iechyd corfforol a allai fod ganddynt, gan gynnwys cyflyrau iechyd sy'n bodoli eisoes, mân anhwylderau, mân anafiadau, rheoli clwyfau, iechyd rhywiol a chyngor atal cenhedlu. Gallwn hefyd helpu gyda Chofrestru Meddygon Teulu a mynediad at wasanaethau Gofal Iechyd eraill
Mae apwyntiadau ar gael a gellir eu harchebu trwy’r Ardal Gynghori Ar-lein.
Cofiwch gynnwys eich rhif ffôn symudol yn adran nodiadau'r ffurflen archebu ar-lein.
Gall ein Hymgynghorwyr Nyrsio gynnig help a chyngor gyda:
* Cofrestru gyda meddygfa leol
* Yn aml iawn, nid oes angen i chi weld meddyg am anhwylderau mwyaf cyffredin, felly bydd y cyngor yn cynnwys eich cyfeirio at y gwasanaeth mwyaf perthnasol i'ch helpu chi yn ogystal â dewisiadau hunan-drin gan y Fferyllfa.
* Gofal Clwyfau a Mân Anafiadau - Cyngor yn unig oni bai bod apwyntiadau ar y campws wedi'u trefnu.
* Rhoi cyngor a gwybodaeth ar faterion fel; ond heb fod yn gyfyngedig i:
- Ail-bresgripsiynau
- Dewisiadau Atal Cenhedlu
- Materion Iechyd Rhywiol
- Bwyd, Diet a Maeth
- Problemau cysgu
I gael gwybodaeth am ddarparwyr gofal iechyd
eraill, gweler Dewisiadau Gofal Iechyd Eraill.