Campws Trefforest
Mae apwyntiadau ffôn ar gael a gellir eu harchebu trwy’r Ardal Gynghori Ar-lein. Cofiwch gynnwys eich rhif ffôn symudol yn adran nodiadau'r ffurflen archebu ar-lein. Gallwch hefyd gynnwys neges fer am yr hyn yw eich mater neu ymholiad Iechyd os dymunwch.
Caerdydd a Chasnewydd - Ar hyn o bryd , yn anffodus, ni allwn ddarparu apwyntiadau Nyrsys wyneb yn wyneb ar ein campysau yng Nghaerdydd neu Gasnewydd, ond mae apwyntiadau ffôn ar gael a gellir eu harchebu drwy'r Ardal Cynghori Ar-lein. Cofiwch gynnwys eich rhif ffôn symudol yn adran nodiadau'r ffurflen archebu ar-lein ynghyd â disgrifiad bach o beth fydd pwrpas yr apwyntiad.
Sylwch – os ydych yn archebu apwyntiad ffôn, weithiau bydd y galwadau o rif 'wedi'i ddal yn ôl', felly gwiriwch eich gosodiadau ffôn i sicrhau y bydd eich ffôn yn eu derbyn
Trefforest - Meddygon Campws
Meddygfa Ashgrove sy'n darparu'r ddarpariaeth meddyg teulu ar gyfer y Myfyrwyr hynny sy'n byw yn ardal Trefforest ac maent wedi cwblhau'r cofrestriad gofynnol.
Mae Meddygfa Ashgrove yn cynnal clinigau meddygon teulu ar gampws Trefforest bob yn ail ddydd Mawrth ac yn gobeithio ailddechrau sesiynau clinig mwy rheolaidd eto ym mis Medi 2023.
Os hoffech drefnu apwyntiad meddyg teulu ar y campws, cysylltwch â meddygfa Ashgrove ar 01443 404 444 a gofyn am apwyntiad ar campws neu fel arall; Ewch i Ashgrove E-Consult a dilynwch yr awgrymiadau i gwblhau cais E-Consult
NID yw'r apwyntiadau hyn ar gael drwy’r Ardal Gynghori Ar-lein.
Cyfrinachedd
Mae cyfrinachedd yn amlwg yn bwysig iawn ac mae'r tîm Nyrsio yn ei gymryd o ddifrif. Bydd eich cofnodion meddygol yn aros yn gyfrinachol ac eithrio mewn amgylchiadau eithriadol. Mae manylion y polisi llawn ar gael ar y Polisïau.
Beth os caf adborth?
Rydym bob amser yn falch o dderbyn adborth. Am wybodaeth ar sut i ddarparu hyn ewch i'n tudalen Polisïau.
Beth os oes gen i gŵyn?
Os ydych chi'n teimlo nad ydych wedi derbyn gwasanaeth da gan y Gwasanaeth Llesiant (y mae'r Gwasanaeth Iechyd yn rhan ohono) efallai y byddwch am ddilyn y tudalen Polisïau.