Gall pobl ifanc dan 25 oed gael gafael ar gyngor iechyd rhywiol cyfrinachol am ddim a chondomau am ddim o'r Cynlluniau Cerdyn Condom (Cerdyn-C) ledled Cymru. Gweler tudalennau'r Cynllun Cerdyn-C ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru am fanylion.
Ewch i weld Gwasanaeth Iechyd Trefforest i gofrestru ar gyfer y cynllun Cerdyn-C a chodi'r condomau. Gellir gwneud hyn naill ai trwy fynychu'r digwyddiad galw heibio neu drefnu apwyntiad gyda Chynghorydd Nyrsio.
Ar gyfer siopau eraill, gwiriwch yma
I gael gafael ar gondomau am ddim yng Nghaerdydd, gweler y map o ddarparwyr cynlluniau Cerdyn-C yng Nghaerdydd. Mae'r cynllun hefyd ar gael trwy Wasanaeth Iechyd PDC yn ystod y tymor
Mae condomau am ddim ar gael drwy'r Cynllun Cerdyn-C o'r Siop Wybodaeth ar Commercial Street Casnewydd, o Gydlynydd Bywyd y Campws yn y pentref myfyrwyr neu drwy Wasanaeth Iechyd PDC yn ystod y tymor. I gael gwybodaeth am siopau eraill, gweler Cynllun Cerdyn-C Gwent.