Blank registration cards

Cofrestrwch

Dylai pob myfyriwr newydd gofrestru gyda Gwasanaeth Iechyd PDC, a dylai unrhyw un sydd wedi symud i ardal newydd i fynychu'r brifysgol hefyd gofrestru gyda meddyg teulu lleol.

1. Cofrestrwch Ar-lein gyda Gwasanaeth Iechyd Prifysgol De Cymru

Cofrestrwch gyda Gwasanaeth Iechyd dan arweiniad Nyrs PDC i sefydlu eich cofnod meddygol PDC a chyflymu mynediad at ofal iechyd tra byddwch yn y brifysgol. 

Pan fyddwch chi'n symud oddi cartref ac yn byw mewn ardal newydd, mae'n bwysig eich bod hefyd yn cofrestru gyda meddyg lleol.

Mae apwyntiadau Iechyd ar gael drwy'r Parth Cynghori Ar-lein 

Cofiwch gynnwys eich rhif ffôn symudol yn adran nodiadau'r ffurflen archebu ar-lein ynghyd â disgrifiad bach o beth fydd pwrpas yr apwyntiad. 

Dylech bob amser ddiweddaru eich manylion cyswllt rhag ofn y bydd angen i'r Brifysgol gysylltu â chi.

Pwysig: NID yw cofrestru gyda Gwasanaeth Iechyd PDC yn eich cofrestru'n awtomatig gyda meddyg teulu. Mae angen i chi wneud hynny ar wahân hefyd. Gweler isod.


2. Cofrestrwch Ar-lein gyda meddygfa lleol

(Mae angen i chi wneud hyn hyd yn oed os ydych eisoes wedi cofrestru gyda Gwasanaeth Iechyd PDC.)

Pan fyddwch chi'n symud oddi cartref ac yn byw mewn ardal newydd, mae'n bwysig eich bod hefyd yn cofrestru gyda meddyg lleol. Mae llawer o fyfyrwyr yn symud oddi cartref i fynychu'r brifysgol. Dylent gofrestru gyda meddyg yn yr ardal y maent yn symud iddi.

Mae sut rydych chi'n dod o hyd i feddyg teulu lleol ac yn cofrestru yn dibynnu ar ble rydych chi'n byw:

Cofrestru gyda Meddygfa Ashgrove

Argymhellir bod myfyrwyr sy'n byw yn yr ardaloedd hyn yn cofrestru gyda Meddygfa Ashgrove.  I wneud hyn, bydd angen i chi gwblhau'r camau canlynol:   

Defnyddiwch y ddolen hon i gofrestru gyda Meddygfa Ashgrove. 

Dyma ganllaw defnyddiol i'ch helpu i gwblhau cofrestriad y GIG.


Ymgynghoriadau ar-lein

Ar ôl i chi gofrestru bydd gennych fynediad i E-Ymgynghoriadau Ar-lein. Mae hon yn ffordd ar-lein o gael cyngor gan eich meddyg teulu.

I drefnu apwyntiadau yn y brif feddygfa ffoniwch 01443 404 444. 


Clinigau ar y campws

Mae Meddygfa Ashgrove yn cynnal clinigau meddygon teulu ar gampws Trefforest bob yn ail ddydd Mawrth ac yn gobeithio ailddechrau eu sesiynau clinig apwyntiadau'n fwy rheolaidd ym mis Medi 2022.

Os hoffech drefnu apwyntiad meddyg teulu ar y campws, cysylltwch â meddygfa Ashgrove ar 01443 404 444 neu [email protected] a gofynnwch am apwyntiad yng nghlinig y Brifysgol.


Meddyginiaeth reolaidd ar gyfer cyflyrau iechyd sy'n bodoli eisoes 

Gall cleifion ar feddyginiaeth tymor hir archebu presgripsiwn rheolaidd o Feddygfa Ashgrove yn y ffyrdd canlynol: 

  • Yn bersonol – ewch a’ch slip am bresgripsiwn rheolaidd (sydd ynghlwm wrth eich presgripsiwn blaenorol) i'r feddygfa. Sicrhewch eich bod yn ticio'r eitemau sydd eu hangen yn ofalus. 
  • Trwy'r post - Anfonwch ef atom ynghyd ag amlen â stamp arno ac wedi’i hunangyfeirio os ydych am ei dderbyn yn ôl trwy’r post. 

Os ydych yn glaf newydd i feddygfa Ashgrove ac yn cymryd meddyginiaeth reolaidd, fe'ch cynghorir i sicrhau bod gennych o leiaf 1 mis o gyflenwad o'ch meddyginiaeth i ddod i'r Brifysgol i roi amser i chi drefnu eich presgripsiwn rheolaidd gyda'ch Meddygfa newydd. 

Bydd angen copi o'ch presgripsiwn rheolaidd arnoch hefyd i'w roi i feddygfa Ashgrove. Ewch a’ch presgripsiwn rheolaidd i’r brif feddygfa cyn gynted â phosibl. Bydd y fferyllydd yn cysylltu â chi os oes angen adolygiad o'ch meddyginiaeth arnoch. 


Byddwch angen eich rhif GIG, enw a chyfeiriad eich meddyg teulu blaenorol, prawf o'ch hunaniaeth a bil cyfleustodau ar gyfer eich cyfeiriad newydd. Gallwch ddod o hyd i’ch rhif GIG drwy gysylltu â'ch meddygfa ddiwethaf neu ar unrhyw bresgripsiynau rheolaidd a llythyrau ysbyty sydd gennych. 


Meddygfa Whitchurch Road

Rydym yn argymell yn gryf eich bod yn cofrestru gyda Meddygfa Whitchurch Road, gyda phwy rydym yn gweithio'n agos.

Mae’n hawdd cofrestru gyda nhw gan ddefnyddio’r ffurflen ar-lein hon.

Unwaith y byddwch wedi cofrestru gyda'r practis, bydd Gwasanaeth Iechyd PDC yn gallu gwneud eich cyfeirio am wasanaethau GIG os oes angen, neu gallwch wneud apwyntiad yn uniongyrchol yn y feddygfa gyda Meddyg Teulu neu Nyrs Practis.

Meddygon teulu eraill yng Nghaerdydd

Screenshot 2022-06-29 150836


Ar dudalen hafan Iechyd yng Nghymru, rhowch eich cod post yr adran 'Darganfon Gwasanaethau Lleol',  a thiciwch y blwch 'Meddygfeydd' i chwilio am feddyg teulu ger eich cyfeiriad yn ystod y tymor.

Screenshot 2


Dangosir rhestr o feddygfeydd â'r agosaf ar gopa'r rhestr. Dilynwch y dolenni i gael gwybod mwy am bob meddygfa gan gynnwys dolen i'w gwefan. 


Sut i gofrestru

Mae rhai meddygfeydd yn rhan o wasanaeth ar y we o'r enw Campus Doctor, sy'n galluogi myfyrwyr i gofrestru gyda meddygon teulu ar-lein. Gallwch ddod o hyd i restr o'r meddygfeydd meddygon teulu yma, ynghyd â dolenni i gofrestru. 

campus-doctor-pages-v2


Os nad yw'r meddyg teulu rydych am gofrestru ag ef ar restr Campus Doctor, bydd yn rhaid i chi gofrestru'n uniongyrchol gyda'r feddygfa. Edrychwch ar wefan y feddygfa i gael gwybod sut i gofrestru gyda nhw. Gall y wybodaeth sydd ei hangen arnoch fod o dan y pennawd 'cofrestr', 'cofrestru', 'cleifion newydd', 'gwybodaeth i gleifion', mynediad i gleifion', 'ffurflenni cleifion' neu debyg.

Dyma ganllaw defnyddiol i'ch helpu i gwblhau cofrestriad y GIG.


Meddygon sy’n medru ieithoedd oni bai am Saesneg

Pe hoffech gofrestru gyda meddyg sy'n siarad iaith arall yn ogystal â Saesneg, er enghraifft Hindi neu Gymraeg ewch at y dudalen we hon.


Meddygfa Bellevue

Mae gan Wasanaeth Iechyd PDC gysylltiad agos gyda Phractis Grŵp Bellevue. Os ydych yn byw yng Nghanol y Ddinas neu'n agos at gampws Casnewydd ac yn dymuno cofrestru gyda'r feddygfa hon gallwch gael yr holl ffurflenni yma.

Dyma eu taflen wybodaeth a chanllaw i wneud apwyntiadau ym meddygfa Bellevue 

Dyma ganllaw defnyddiol i gwblhau Cofrestriad y GIG

Clinig Sant Paul

Mae Clinig Sant Paul wedi'i leoli yng nghanol dinas Casnewydd ac maent yn barod i gofrestru unrhyw fyfyriwr ac, o bosibl, unrhyw aelod o'u teulu sy'n byw naill ai yng nghanol y ddinas neu yng nghyffuniau Casnewydd.

Gallwch weld yr holl ffurflenni a'r wybodaeth sydd eu hangen i gofrestru ar eu gwefan.

Pe hoffech gofrestru aelod o'ch teulu, neu ar gyfer unrhyw faterion eraill, cysylltwch â hwy ar 01633 266140. Gwnewch yn siŵr eich bod yn dweud wrthynt eich bod yn fyfyriwr ym Mhrifysgol De Cymru.

Meddygfeydd Eraill

Fel arall, defnyddiwch Iechyd yng Nghymru i ddod o hyd i'r feddygfa agosaf i'ch cyfeiriad tymor. Bydd gan y mwyafrif o Feddygfeydd y ffurflenni cofrestru gofynnol ar gael ar eu gwefan. Bydd angen eich rhif GIG, enw a chyfeiriad eich meddyg teulu blaenorol arnoch, prawf adnabod a bil cyfleustodau ar gyfer eich cyfeiriad newydd.

Gallwch ddod o hyd i'ch rhif GIG trwy gysylltu â'ch meddygfa flaenorol neu ar unrhyw ail-bresgripsiynau a llythyrau ysbyty a allai fod gennych. Os ydych chi'n Fyfyriwr Rhyngwladol, ni fydd gennych rif GIG ac anfonir hwn atoch ar ôl i chi gwblhau'r broses gofrestru.