Dylai pob myfyriwr newydd gofrestru gyda Gwasanaeth Iechyd PDC, a dylai unrhyw un sydd wedi symud i ardal newydd i fynychu'r brifysgol hefyd gofrestru gyda meddyg teulu lleol.
Cofrestrwch gyda Gwasanaeth Iechyd dan arweiniad Nyrs PDC i sefydlu eich cofnod meddygol PDC a chyflymu mynediad at ofal iechyd tra byddwch yn y brifysgol.
Pan fyddwch chi'n symud oddi cartref ac yn byw mewn ardal newydd, mae'n bwysig eich bod hefyd yn cofrestru gyda meddyg lleol.
Mae apwyntiadau Iechyd ar gael drwy'r Parth Cynghori Ar-lein
Cofiwch gynnwys eich rhif ffôn symudol yn adran nodiadau'r ffurflen archebu ar-lein ynghyd â disgrifiad bach o beth fydd pwrpas yr apwyntiad.
Dylech bob amser ddiweddaru eich manylion cyswllt rhag ofn y bydd angen i'r Brifysgol gysylltu â chi.
Pwysig: NID yw cofrestru gyda Gwasanaeth Iechyd PDC yn eich cofrestru'n awtomatig gyda meddyg teulu. Mae angen i chi wneud hynny ar wahân hefyd. Gweler isod.
(Mae angen i chi wneud hyn hyd yn oed os ydych eisoes wedi cofrestru gyda Gwasanaeth Iechyd PDC.)
Pan fyddwch chi'n symud oddi cartref ac yn byw mewn ardal newydd, mae'n bwysig eich bod hefyd yn cofrestru gyda meddyg lleol. Mae llawer o fyfyrwyr yn symud oddi cartref i fynychu'r brifysgol. Dylent gofrestru gyda meddyg yn yr ardal y maent yn symud iddi.
Mae ein canllawiau drwy fideo yn eich arwain drwy'r broses o gofrestru.
Rhaid i chi gofrestru gyda Gwasanaeth Iechyd PDC cyn trefnu apwyntiad. Ar ôl i chi gofrestru, ewch at y dudalen apwyntiadau.