Byddwch angen eich rhif GIG, enw a chyfeiriad eich meddyg teulu blaenorol, prawf o'ch hunaniaeth a bil cyfleustodau ar gyfer eich cyfeiriad newydd. Gallwch ddod o hyd i’ch rhif GIG drwy gysylltu â'ch meddygfa ddiwethaf neu ar unrhyw bresgripsiynau rheolaidd a llythyrau ysbyty sydd gennych.
Meddygfa Whitchurch Road
Rydym yn argymell yn gryf eich bod yn cofrestru gyda Meddygfa Whitchurch Road, gyda phwy rydym yn gweithio'n agos.
Mae’n hawdd cofrestru gyda nhw gan ddefnyddio’r ffurflen ar-lein hon.
Meddygon teulu eraill yng Nghaerdydd

Ar dudalen hafan Iechyd yng Nghymru, rhowch eich cod post yr adran 'Darganfon Gwasanaethau Lleol', a thiciwch y blwch 'Meddygfeydd' i chwilio am feddyg teulu ger eich cyfeiriad yn ystod y tymor.

Dangosir rhestr o feddygfeydd â'r agosaf ar gopa'r rhestr. Dilynwch y dolenni i gael gwybod mwy am bob meddygfa gan gynnwys dolen i'w gwefan.
Sut i gofrestru
Mae rhai meddygfeydd yn rhan o wasanaeth ar y we o'r enw Campus Doctor, sy'n galluogi myfyrwyr i gofrestru gyda meddygon teulu ar-lein. Gallwch ddod o hyd i restr o'r meddygfeydd meddygon teulu yma, ynghyd â dolenni i gofrestru.

Os nad yw'r meddyg teulu rydych am gofrestru ag ef ar restr Campus Doctor, bydd yn rhaid i chi gofrestru'n uniongyrchol gyda'r feddygfa. Edrychwch ar wefan y feddygfa i gael gwybod sut i gofrestru gyda nhw. Gall y wybodaeth sydd ei hangen arnoch fod o dan y pennawd 'cofrestr', 'cofrestru', 'cleifion newydd', 'gwybodaeth i gleifion', mynediad i gleifion', 'ffurflenni cleifion' neu debyg.
Dyma ganllaw defnyddiol i'ch helpu i gwblhau cofrestriad y GIG.
Meddygon sy’n medru ieithoedd oni bai am Saesneg
Pe hoffech gofrestru gyda meddyg sy'n siarad iaith arall yn ogystal â Saesneg, er enghraifft Hindi neu Gymraeg ewch at y dudalen we hon.