Cwnsela

Beth yw'r Gwasanaeth Cwnsela? 

Mae Cwnsela yn wasanaeth diduedd, cyfrinachol ac anfeirniadol sy’n galluogi pob myfyriwr presennol i gael mynediad at gwnselwyr sydd wedi’u hyfforddi’n broffesiynol i gael cymorth iechyd meddwl. Gallwch gael mynediad at y Gwasanaeth Cwnsela trwy Apwyntiad Cyngor Lles.

Bydd yr apwyntiad hwn yn helpu i benderfynu ai cwnsela yw'r gwasanaeth gorau ar gyfer eich anghenion; neu a yw ein Gwasanaeth Iechyd Meddwl yn fwy priodol. Mae cwnsela yn aml yn fwyaf addas i'r rhai y mae eu hamgylchiadau wedi effeithio ar eu hiechyd meddwl cyn dechrau yn y brifysgol, megis diagnosis parhaus o iselder, anhwylder personoliaeth ffiniol, neu drawma mwy hanesyddol.

Os ydych chi’n meddwl bod cwnsela’n iawn i chi, neu os hoffech chi ddysgu mwy am y gwasanaeth, archebwch Apwyntiad Cyngor Lles i drafod hyn.

Os ydych yn poeni am gyd-fyfyriwr neu os oes angen ymyriad brys arnoch eich hun, gallwch adrodd am bryder i'r Gwasanaeth Lles trwy'r Ffurflen Pryder Lles Iechyd Meddwl.