Mae pawb yn teimlo'n unig ar adegau.
Rydym i gyd yn profi unigrwydd yn wahanol. Nid yw rhai ohonom yn hoffi bod heb gwmni, ond mae eraill yn hoffi hynny. Efallai y byddwn yn teimlo bod angen i ni wneud amser i fod ar ein pen ein hun i "ailwefru" ein batris cymdeithasol. Efallai fod gennym lawer o ffrindiau a pherthnasoedd, ond eto'n dal i deimlo'n "unig".
Unigrwydd yw'r teimlad a gawn pan nad yw ein hangen am gyswllt cymdeithasol cadarnhaol a gwerth chweil yn cael ei ddiwallu. Os ydych chi'n teimlo'n unig, yna yn eironig rydych chi mewn cwmni da. Rydym i gyd yn teimlo'n unig ar wahanol adegau yn ein bywydau, a gall prifysgol fod yn amser arbennig o unig i lawer.
Mae'r Gwasanaeth Lles yn gobeithio helpu gyda ‘Siawns am Sgwrs’.
Rydym yn bwriadu dod â grwpiau bach o fyfyrwyr at ei gilydd i "sgwrsio" mewn lleoliad niwtral, tawel a hamddenol. Bydd y grwpiau hyn yn cael eu harwain gan fentor arbenigol hyfforddedig sy'n gallu dechrau'r sgyrsiau a darparu cymorth cyfeillgar drwyddi draw. Bydd lluniaeth hefyd. Te a bisged unrhyw un?
Y bwriad yw cael cyfarfodydd rheolaidd i sefydlu’r perthnasoedd newydd hyn a gobeithio eu meithrin i gyfeillgarwch. A chofiwch, bydd pawb yno am yr un rheswm â chi!
Felly, os oes gennych ddiddordeb, rhowch wybod i ni drwy glicio ar y botwm ar y dde.