Gall y cwrs eich helpu chi i gymryd mwy o reolaeth dros eich gweithredoedd, fel bod bywyd o ddydd i ddydd yn dod yn llai trallodus ac yn fwy pleserus. Byddwch yn dysgu ffyrdd ymarferol ac effeithiol o ddelio â meddyliau a theimladau a all fod yn peri trallod.
Datblygwyd y cwrs ar eich cyfer gan Dr Neil Frude a bydd yn eich helpu chi i ganfod yr hyn sy’n wirioneddol bwysig i chi ac yn rhoi’r sgiliau i chi allu byw eich bywyd gyda mwy o hyder a mwy o ymdeimlad o bwrpas.
Dechreuwch y cwrs drwy glicio ar fideo ACT 1 isod. Mae pedwar fideo a phob un yn para tua 40 munud. Gallwch gael saib ar unrhyw adeg a dod yn ôl atynt os bydd angen i chi gael hoe. Rydym yn argymell cymryd diwrnod neu ddau rhwng pob fideo er mwyn ymarfer y dysgu. Ar gyfer pob un o'r fideos mae yna ganllaw y gallwch chi ei lawrlwytho, ei argraffu neu gymryd nodiadau arno, a hefyd mae rhai ymarferion sain y gallwch chi wrando arnyn nhw.
Dysgwch am sut mae eich Meddwl yn gweithio – a sut y mae’n aml yn gweithio yn eich erbyn. Ond drwy gymryd mwy o reolaeth, gallwch atal eich Meddwl rhag difetha pethau i chi.
Ewch i’r ddolen am fersiwn BSL 'Sut mae eich meddwl yn gweithio'
Rydym yn aml yn gwneud ymdrech fawr i osgoi neu newid pethau na ellir eu newid, a gall hyn wneud pethau’n waeth i ni. Mae’n aml yn well Derbyn.
Ewch i’r ddolen am fersiwn BSL 'Derbyn yr hyn na allwch ei newid'
Mae Ymwybyddiaeth Ofalgar yn ein galluogi i ganolbwyntio mwy ar y presennol – ac mae manteision hyn yn bwerus iawn. Dysgwch sut i ymarfer y grefft o ‘sylwi yn unig’.
Ymarferwch eich sgiliau gydag Ymarferion Sain:
ACT 4
Beth sy’n bwysig i chi? Beth ydych chi wir yn poeni amdano? Darganfyddwch sut y gall gweithredu yn unol â’ch gwerthoedd fod y ffordd orau i chi gael bywyd gwell.
Ewch i’r ddolen am fersiwn BSL 'Eich gwerthoedd'