Hyb Helpu Eich Hun

Efallai eich bod yn cael trafferth gyda'ch iechyd meddwl ond nid ydych yn barod i wneud apwyntiad gyda'r Gwasanaeth Lles. Efallai bod gennych anabledd ac yr hoffech wybod mwy am sut i gynnal eich hun. Efallai eich bod yn pryderu am fater meddygol ond ddim yn siŵr a yw'n ddigon pwysig i gwrdd â'r Nyrsys. Dyma bwrpas yr Hyb Helpu Eich Hun!

Yn llawn dop o adnoddau ar gyfer holl fyfyrwyr PDC, o ddolenni i wasanaethau iechyd rhywiol i gyrsiau ar reoli pryder, cyngor ar asesiadau anabledd i awgrymiadau lles y gellir ymddiried ynddynt, dewch o hyd i unrhyw wybodaeth y gallai fod ei hangen arnoch chi yma.