Eleni, mae Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl o'r 15fed i'r 21ain o Fai.
I ddathlu, mae'r Gwasanaeth Lles wedi cynllunio gwerth diwrnod cyfan o weithgareddau i helpu i godi ymwybyddiaeth a hefyd cefnogi'r rhai sy'n delio â ffocws yr ymgyrch eleni: gorbryder.
Mae ein gweithgareddau wedi'u creu i hyrwyddo sgwrs; i'n cael ni i siarad am ein pryderon a gobeithio teimlo'n ysgafnach ar ôl rhannu. Mae gennym grefftau creadigol i sianelu egni pryderus, ac os nad yw hynny'n ddigon, mae yna ymarfer corff hefyd ar ffurf taith gerdded fach neu ymarfer cylched mwy dwys. Ac os nad yw hynny’n apelio, beth sy'n fwy hamddenol na threulio amser gyda chi cyfeillgar?
Mae'r gweithgareddau yma ar agor i bawb. Os ydych chi'n ystyried eich hun yn berson sy’n pryderu neu beidio, neu os ydych chi'n cael trafferth gyda'ch iechyd meddwl mewn ffyrdd eraill neu ddim, mae croeso i chi.
Gallwch fynychu pob gweithgaredd neu gallwch fynychu un yn unig. Gofynnwn i chi gwblhau ffurflen fer iawn i gofrestru ymlaen llaw (bydd clicio ar y gweithgaredd yn mynd â chi i'r ffurflen):
Cerdded a Chlonc - 10am i 11am
Bore Coffi - 11am i 12pm
Cinio - 12pm i 1pm
Sesiwn Grefftau - 1pm - 2.30pm
Cŵn Therapi - 2pm - 4pm
Sesiwn Cylchedau/Ffitrwydd - 4pm tan 5pm
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, anfonwch e-bost at [email protected]
Welwn ni chi yno!