Cofrestru gyda Meddygon Teulu (Campws Trefforest)

25-09-2023 am 11am i 1pm

Lleoliad: TR H025, Campws Trefforest

Cynulleidfa: Student

Cost: Am ddim

Ychwanegu at y calendr

Mae'r sesiwn galw heibio hon ar gyfer myfyrwyr sydd angen help i gofrestru gyda meddygfa leol, unrhyw fyfyriwr sydd heb gofrestru gyda meddyg teulu yn y DU, neu'r rhai sydd angen ailgofrestru gyda meddyg teulu lleol ar ôl symud oddi cartref.

Cyn dod

Dylai pob myfyriwr newydd gofrestru gyda Gwasanaeth Iechyd Prifysgol De Cymru ar ddechrau eu cwrs. Mae hyn yn sefydlu cofnod meddygol PDC ac yn cyflymu mynediad at ofal iechyd pan fydd ei angen.

Dewch gyda chi -
• Manylion eich meddygfa flaenorol
• Eich rhif GIG – gallwch gael hwn drwy gysylltu â'ch meddygfa
• Manylion hanes meddygol y gorffennol a meddyginiaeth reolaidd yr ydych yn eu cymryd
• Hanes brechu – Meningitis / Y Frech Goch, Clwy'r Pennau a Rwbela (MMR)

Nid oes angen archebu lle, galwch heibio.