Clwb Llyfrau - Campws Trefforest (cyfeirio cymunedol)

15-03-2023 am 12pm i 2pm

Lleoliad: Campws Trefforest

Cynulleidfa: Student

Cost: Am Ddim

Ymuno

Ychwanegu at y calendr

Ydych chi'n caru llyfrau? Eu darllen, eu rhannu, siarad amdanyn nhw?

 Ydych chi hefyd eisiau gofod lle gallwch ymlacio, cwrdd â ffrindiau newydd a rhannu eich angerdd am lyfrau gyda phobl sydd â'r un meddylfryd?

 Yna beth am ymuno â chlwb llyfrau newydd y gwasanaeth Lles?!

 Fel rhan o'n hymroddiad i ddarparu cyfleoedd a gweithgareddau i fyfyrwyr gryfhau eu lles, credwn ei bod yn bwysig cwmpasu pob agwedd ar yr hyn sy'n gwneud i ni deimlo'n dda.

 Peidiwch â phoeni, ni fydd y llyfrau rydyn ni'n argymell yn ymwneud â lles, nac yn rhai hunangymorth (oni bai mai dyna ry’ chi eisiau?). Gallwch awgrymu unrhyw lyfr yr hoffech; boed yn hen ffefryn neu'n deitl newydd sydd wedi dal eich llygad.

Rydyn ni'n gobeithio meithrin amgylchedd y gall unrhyw un ymuno ag ef, felly byddwn yn ceisio rhoi cyfle i bob aelod o'r clwb ddarllen y teitlau rydyn ni'n eu dewis heb orfod eu prynu.

 Os oes gennych ddiddordeb, cwblhewch y ffurflen gofrestru drwy ddilyn y ddolen isod:

https://forms.office.com/e/GSvhxJGeXa

2