Gall bywyd prifysgol fod yn amser anodd i fyfyrwyr. Mae yna aseiniadau, dyddiadau cau, bywyd cymdeithasol, gwaith a mwy i jyglo a chadw ar ben pethau. Yn anffodus, weithiau gall hyn fynd yn drech na ni, gan arwain at deimladau o orbryder, hwyliau isel a straen.
Nod y gweithdy hwn yw helpu. Trwy eich arfogi â'r wybodaeth a'r awgrymiadau sydd eu hangen arnoch i reoli eich lefelau straen eich hun, rydym yn gobeithio y byddwch yn teimlo ychydig yn ysgafnach ar ôl y gweithdy ac yn barod i ddelio â heriau astudio a bywyd.
Bydd y pynciau a drafodir yn cynnwys:
Beth yw gorbryder a straen?
Sut olwg sydd ar straen? Dyw e ddim yr un peth i bawb!
Sut gall gorbryder arwain at straen?
Sut gall straen arwain at iselder neu hwyliau isel?
Sut i adnabod eich straenachoswyr eich hun a beth i gadw llygad amdano.
Sut i reoli'r straenachoswyr a'r gorbryder hyn.
Gyda phwy i siarad os oes angen help arnoch gyda'ch straen.
Mae lleoedd cyfyngedig ar y cwrs hwn, felly e-bostiwch [email protected] os hoffech archebu lle, neu os ydych chi eisiau rhagor o wybodaeth.