Cyrsiau, Gweithdai a Digwyddiadau

Cefnogi eich Llesiant

Cyrsiau PDC

Mae'r Brifysgol yn cynnal amrywiaeth o ddigwyddiadau unigol, cyrsiau aml-sesiwn a chyfarfodydd grŵp rheolaidd sy'n gysylltiedig ag iechyd a llesiaint - rhestrir pob sesiwn ar wahân o dan Digwyddiadau.

Cyrsiau Allanol

Er nad oes gweithdai wyneb yn wyneb ar hyn o bryd, mae'r sefydliadau canlynol yn cynnal eu cyrsiau ar-lein gyda mynediad am ddim i bawb waeth beth yw eu lleoliad.

Cyrsiau Ymwybyddiaeth Ofalgar a Rheoli Straen am ddim ar gael yn Rhondda Cynon Taf a Merthyr Tudful. Cyflwynir gan Valleys Steps. Mae gan Valleys Steps rhaglen helaeth o weithdai ar-lein, gallwch weld y rhestr a chofrestru yma

Cyrsiau Rheoli Straen a Bywyd ACTif am ddim yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg.

Cyflwynir gan Stepiau.

Cyrsiau Rheoli Straen a Bywyd ACTif am ddim ar gael yng Nghasnewydd.

Yn cael ei redeg gan Fwrdd Iechyd Aneurin Bevan.

Mae’r Cwrs Bywyd ACTif a ddarperir gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gwrs hunangymorth ar-lein am ddim i helpu i wella eich iechyd meddwl a'ch lles. Gall y cwrs hwn eich helpu i gymryd mwy o reolaeth ar eich gweithredoedd, fel bod bywyd o ddydd i ddydd yn dod yn llai trallodus ac yn fwy pleserus.

Cwrs ar-lein yw SilverCloud a ddarperir gan y GIG i'ch helpu i reoli straen, pryder ac iselder. Rydych chi'n gweithio trwy gyfres o bynciau a ddewiswyd gan therapydd i fynd i'r afael ag anghenion penodol.  Cynlluniwyd y cwrs wyth wythnos i'w gwblhau yn eich amser eich hun ac ar eich cyflymder eich hun. I gofrestru mae angen i chi fod wedi'ch cofrestru gyda meddyg teulu yng Nghymru.

Mae’r Coleg Adfer (MIND Cwm Taf Morgannwg) yn cynnig ystod o gyrsiau addysgol, gweithdai ac adnoddau i bobl sy'n defnyddio gwasanaethau Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg.

Lleihau Straen yn Seiliedig ar Ymwybyddiaeth Ofalgar (MBSR) – cwrs ar-lein am ddim gyda thema wahanol ar gyfer pob wythnos o'r rhaglen 8 wythnos.

Ariennir y prosiect State of Mind gan Lywodraeth Cymru ac mae'n dysgu cyfuniad o sgiliau a strategaethau i gefnogi iechyd meddwl a lles pobl ifanc.  Ewch i Platfform  i gael mwy o wybodaeth am y prosiect.


(Sylwch fod y cyrsiau hyn yn cael eu cyflwyno gan sefydliadau allanol ac nid PDC)