Rydym yn cydnabod bod hwn yn gyfnod anodd a chythryblus i bawb, gan greu ansicrwydd a phryder a all effeithio ar iechyd meddwl.
Fodd bynnag, mae yna lawer o bethau y gallwn eu gwneud i helpu i gefnogi a rheoli ein llesiant meddyliol. Mae aros yn gysylltiedig, yn iach ac yn ymgysylltiedig yn dod yn bwysicach nag erioed, felly mae'r Gwasanaeth Llesiant wedi dwyn ynghyd ddetholiad o'r nifer o adnoddau ar-lein sydd ar gael.
Mae apwyntiadau ffôn a Skype 30 munud sy’n cynnig cyngor llesiant ar gael a gellir eu harchebu trwy’r Ardal Gynghori Ar-lein
Valleys Steps – yn dod ag ymwybyddiaeth ofalgar a rheolaeth straen atoch ar-lein
Mae Valleys Steps yn eich dysgu sut i reoli straen, pryder a hwyliau isel ar-lein a thrwy ddefnyddio fformat Gweminar ac analluogi'ch meicroffon a'ch camera, sicrhau bod eich preifatrwydd yn cael ei amddiffyn.
Cofrestrwch i sesiynau ar-lein Valleys Steps
Mae Valleys Steps hefyd yn darparu cynnwys YouTube ac adnoddau hunangymorth.
Ffitrwydd Meddwl i Brifysgolion
Yn ddiweddar, mae'r Brifysgol wedi buddsoddi yn FIKA, ap iechyd meddwl a ddyluniwyd yn benodol ar gyfer myfyrwyr.
Mae'r ap yn cynnwys ystod eang o ymarferion, gan gynnwys help i gadw'n heini yn feddyliol yn ystod yr achosion o coronafeirws.
Llawrlwythwch yr ap FIKA nawr - mae holl fyfyrwyr PDC yn cael mynediad premiwm am ddim - defnyddiwch eich e-bost prifysgol i ddechrau!
Gwasanaeth Llesiant PDC
Sut bynnag rydych chi'n teimlo, nid ydych chi ar eich pen eich hun ac mae dewis helaeth o wybodaeth ac adnoddau hunangymorth ar gael yn ôl pwnc ar dudalen hunangymorth y Gwasanaeth Llesiant.
Mae'r Gwasanaeth Llesiant yn cynnal amrywiaeth o ddigwyddiadau unigol, cyrsiau aml-sesiwn a gweminar rheolaidd sy'n gysylltiedig ag iechyd a llesiaint.
Platfform4YP Gan bobl ifanc i bobl ifanc. Gan ddod ag eiliadau o dawelwch i'ch diwrnod a'ch helpu chi i deimlo fel bod eich traed ar y ddaear.
Instagram @stateofmindfromplatfform
Twitter @Platfform4YP
Stepiau: ACT-ion for Living Lleihau eich dioddefaint a chael mwy allan o fywyd trwy ddeall sut mae'ch meddwl yn gweithio.
ACT Sesiwn 1: Tuag at Lai o Ddioddefaint
ACT Sesiwn 2: Derbyn Anghysur
ACT Sesiwn 3: Y Drafferth gyda Meddwl
ACT Sesiwn 4: Cario ‘mlaen gyda’ch Bywyd
Prifysgol Iâl Cwrs ‘Gwyddoniaeth Llesiant’
Sut i edrych ar ôl eich iechyd meddwl wrth aros gartref:
Cadw meddwl actif
Amrywiaeth eang o gyrsiau ar-lein am ddim i'ch helpu chi i ddysgu sgil neu hobi newydd a chynyddu eich hyder: