Gall prifysgol fod yn gyffrous ond gall hefyd ddod â heriau. Gall pethau deimlo'n llethol, ac efallai y bydd angen cymorth arnoch gyda'ch lles a'ch iechyd meddwl. Rydyn ni yma i chi. Gall ein cynghorwyr siarad â chi i archwilio eich anghenion, eich cyfeirio at gymorth, a'ch cefnogi'n uniongyrchol. Rydyn ni hefyd yn cynnig amrywiaeth eang o ddigwyddiadau i helpu i wella eich lles.
Y cam cyntaf tuag at gael cymorth unigol gennym ni yw trefnu Apwyntiad Cyngor Lles.
Mae Apwyntiadau Cyngor Lles yn sesiynau 45 munud a gynhelir wyneb yn wyneb, dros y ffôn neu ar-lein. Maen nhw’n gyfle diogel a chyfrinachol i drafod pa bynnag faterion sydd gennych chi. Byddwch chi’n cael cymorth ac atgyfeiriadau cymorth priodol os oes angen. Gallai cymorth gynnwys atgyfeiriadau at weithdai, cyrsiau byr, gweithgareddau, cyngor iechyd meddwl, neu gwnsela.
I drefnu Apwyntiad Cyngor Lles, dilynwch y ddolen ‘Trefnu Apwyntiad' ar y dudalen Apwyntiadau.
Sylwer: ni allwch chi drefnu apwyntiad yn uniongyrchol gyda Chynghorydd Iechyd Meddwl neu Gwnselydd cyn cael Apwyntiad Cyngor Lles.
Datganiad Preifatrwydd - rydym yn defnyddio’r Ardal Gynghori Ar-lein ar gyfer trefnu apwyntiadau a pheth rhyngweithio cefnogi ac mae'r defnydd hwn yn dod o dan Ddatganiad Preifatrwydd yr Ardal Gynghori Ar-lein . Ar gyfer datganiadau preifatrwydd cyffredinol PDC, gweler Hysbysiadau Preifatrwydd a Defnyddio Gwybodaeth Bersonol.
Darganfyddwch fwy am sut y gall Cynghorydd Iechyd Meddwl eich cefnogi.
Darganfod mwy am y Gwasanaeth Cwnsela a chael atebion i rai cwestiynau cyffredin am gwnsela.
Mae gan bawb ym Mhrifysgol De Cymru’r hawl i deimlo'n ddiogel ac yn cael eu cefnogi. Os ydych chi'n profi neu'n dyst i ddigwyddiad sy’n peri pryder, gallwch chi roi gwybod i ni am hyn drwy gyflwyno ffurflen ar wefan adrodd a chymorth PDC.
Edrychwch ar ein gweithdai a'n digwyddiadau ar gyfer sesiynau ar reoli straen, gorbryder, iselder a llawer mwy.
Mae Togetherall yn rhoi mynediad 24/7 i fyfyrwyr at gymuned cymorth cymheiriaid ar-lein ddienw wedi'i chymedroli a'i chefnogi gan weithwyr proffesiynol Iechyd Meddwl hyfforddedig.
Edrychwch ar yr Hyb Helpu Eich Hun i ddod o hyd i wybodaeth am adnoddau hunangymorth, grwpiau cymorth, ymgyrchoedd, diwrnodau ymwybyddiaeth a llawer mwy.